Glaw'n difetha'r gêm rhwng Morgannwg a Chaint yn llwyr

  • Cyhoeddwyd
glawFfynhonnell y llun, AFP

Doedd dim canlyniad i'r gêm rhwng Morgannwg a Chaint yn y Cwpan Undydd ar Erddi Soffia wedi i'r tywydd rhoi stop ar y chwarae.

Morgannwg alwodd yn gywir a dewis batio.

Gohiriwyd y chwarae am gyfnod, a phan ddechreuodd y gêm fe gollodd Morgannwg ddwy wiced er i Chris Cooke a Marnus Labuschagne sgorio'n dda.

Yna gyda'r sgôr ar 65 am ddwy wiced ac ar ôl 15 pelawd, fe ddychwelodd y glaw.

Fe wnaed y penderfyniad nad oedd pwrpas ceisio parhau, felly bydd y ddau dîm yn cael pwynt yr un sy'n eu gadael yn y ddau safle gwaelod yn y tabl.