Rhybudd i deithwyr ar gyfer Dydd y Farn yng Nghaerdydd
- Cyhoeddwyd
Mae Cyngor Caerdydd wedi rhybuddio pobl sy'n bwriadu teithio i Gaerdydd ddydd Sadwrn y dylid cynllunio eu siwrne o flaen llaw er mwyn osgoi trafferthion.
Daw'r rhybudd wrth i Ddydd y Farn ddychwelyd i'r brif ddinas eto eleni.
Bydd y Dreigiau yn wynebu'r Scarlets am 15:00 brynhawn Sadwrn, gyda Gleision Caerdydd yn herio'r Gweilch am 17:15 yng nghystadleuaeth y Pro14.
Fe wnaeth dros 60,000 o gefnogwyr fynychu'r digwyddiad y llynedd, ac mae disgwyl tua'r un nifer yn Stadiwm Principality y penwythnos hwn.
Bydd yr holl ffyrdd yng nghanol y ddinas ar gau rhwng 13:00 a 20:00 ac mae disgwyl i wasanaethau trên fod yn brysur trwy'r dydd.
Mae Trafnidiaeth Cymru wedi annog teithwyr i gyrraedd Caerdydd mor gynnar â phosibl.
Bydd Heol y Frenhines yn cau am 17:00 a bydd system giwio ar waith ar ôl y gêm yng Ngorsaf Caerdydd Canolog., dolen allanol
Mae cefnogwyr yn cael eu cynghori i adael bagiau mawr adref a cheisio cyrraedd y stadiwm mor fuan â phosib.
Gallwch ddod o hyd i gyngor teithio pellach ar wefan y cyngor, dolen allanol.