Y cyflwynydd a'r nofelydd, Mari Griffith wedi marw
- Cyhoeddwyd
Mae'r gyflwynwraig, cantores a nofelydd Mari Griffith wedi marw yn 79 oed.
Bu farw o ganser mewn hosbis ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn gynnar fore Mawrth.
Roedd ei wyneb a'i llais yn gyfarwydd i wylwyr rhaglenni fel Disc a Dawn, Music From the Castles, a Poems and Pints.
Fe ymddangosodd yn aml wrth ochr Ryan a Ronnie yn ystod cyfnod aur o deledu Cymreig yn y 70au.
Yn ddiweddarach fe drodd ei llaw at ysgrifennu llyfrau ffuglen hanesyddol, gan gyhoeddi ei nofel gyntaf yn 2015 yn 75 oed.
Yn ferch i brifathro ac actores amatur, cafodd ei magu ym Maesteg ond roedd wedi ymgartrefu yn Llanilltud Fawr.
Fe ddechreuodd chwarae cerddoriaeth glasurol, gan chwarae'r delyn, y piano a'r soddgrwth.
Fe deithiodd y byd yn gweithio ar raglenni adloniant a cherddoriaeth.
Enillodd ysgoloriaeth i fynd i'r brifysgol yng Nghaerdydd, a chafodd ei hannog i fynd gan ei rhieni er ei bod eisiau bod yn gantores.
Dechreuodd yn y BBC fel cyhoeddwr cyn mynd ymlaen i gyflwyno ar Radio Wales, Radio 3 a Radio Cymru.
Dywedodd Rhodri Talfan Davies, Cyfarwyddwr BBC Cymru: "Roedd Mari'n ddarlledwraig naturiol a'i llais yn disgleirio trwy'r tonfeddi.
"Ei chariad at gerddoriaeth a'i harweiniodd i'r BBC, ac fe gofiwn ei pherfformiadau gyda Ryan a Ronnie yn ogystal â rhaglenni cerddorol eiconig y cyfnod.
"Bu i'w gyrfa radio ymestyn ar draws nifer o orsafoedd y BBC - gan gynnwys Radio Wales a Radio Cymru - ac rwy'n gwybod y bydd cydweithwyr a gwrandawyr yn ei cholli'n fawr.
"Rydym yn ymestyn ein cydymdeimlad dwysaf i'w theulu a'i ffrindiau."