Dŵr Cymru yn ymddiheuro am neges i fynd heb gig
- Cyhoeddwyd
Mae Dŵr Cymru wedi ymddiheuro ar ôl cyhoeddi neges ar eu tudalennau Facebook a Twitter yn awgrymu y gallai pobl fynd heb gig am ddiwrnod.
Roedd y neges yn deillio o ymgyrch Wythnos Arbed Dŵr ble mae cwmnïau'n rhannu cynnwys ac awgrymiadau ar sut i arbed dŵr.
Ond maen nhw nawr wedi dileu'r neges ar ôl i nifer o bobl ddweud eu bod yn anhapus gyda'r cynnwys.
Un o'r rhai oedd yn anhapus gyda'r neges oedd y ffermwr a'r darlledwr Gareth Wyn Jones.
'Camarwain pobl'
Ar raglen Post Cyntaf BBC Radio Cymru fore Mawrth dywedodd: "Mae cwmnïau dŵr yng Nghymru a Lloegr yn colli 3.2 biliwn litr o ddŵr y dydd, ac maen nhw'n deud wrth bobl i beidio bwyta cig ar ddydd Llun! Maen nhw'n camarwain pobl.
"Mae 80% o'r dŵr sy' angen i gael cig [yng Nghymru] yn mynd i dyfu'r glaswellt i'r fuwch fwyta, ac mae'r rhan fwya' o hwnna'n mynd yn ôl i'r tir fel gwrtaith.
"Dydy o ddim yn iawn. Maen nhw'n cael eu ffigyrau o America.
"Yma yng Nghymru mae mwyafrif y gwartheg yn cael eu bwyd o'r glaswellt, a dydi o ddim yn deg eu bod nhw'n pigo ar ffermwyr yma bob tro."
'Nifer yn anhapus'
Dywedodd llefarydd ar ran Dŵr Cymru: "Bob blwyddyn, mae'r sefydliad annibynnol, Waterwise, yn cynnal yr ymgyrch Wythnos Arbed Dŵr, gan roi cyngor i bobl ar sut i leihau faint o ddŵr y maent yn defnyddio yn eu bywydau bob dydd.
"Mae cwmnïau dŵr a sefydliadau ledled y DU wedi bod yn cefnogi hyn trwy rannu cynnwys, awgrymiadau a chynnig dyfeisiau arbed dŵr ar gyfryngau cymdeithasol yr wythnos hon.
"Roedd thema dydd Llun yn trafod faint o ddŵr a all fod yn rhan o gynhyrchu cig, ac awgrymwyd y gallai pobl fynd heb gig am ddiwrnod - sef 'Meat Free Monday'.
"Roedd nifer o bobl wedi ymateb yn dweud eu bod yn anhapus gyda'r cynnwys ar ein tudalen Facebook.
"Rydym wedi dileu'r un post unigol hwn. Mae'n flin gennym ac nid ydym am beri gofid i unrhyw o'n cwsmeriaid."