Cwpan Undydd: Morgannwg yn curo Sir Gaerloyw
- Cyhoeddwyd
Mae capten Morgannwg, Chris Cooke wedi sicrhau ei sg么r uchaf erioed - 161 o rediadau - wrth i'w d卯m guro Sir Gaerloyw o 74 o rediadau yn y Cwpan Undydd.
Fe ychwanegodd Billy Root 98 o rediadau i roi sg么r o 331 am saith wiced.
Llwyddodd y bowliwr cyflym Marchant de Lange i gipio tair wiced gynnar wedyn i amharu ar ymdrechion y t卯m cartref i daro'n 么l.
Jack Taylor oedd prif sgoriwr Sir Gaerloyw gyda 75 o rediadau, ac fe lwyddodd y t卯m cartref i gyrraedd 257.
Dywedodd Cooke wedi'r g锚m eu bod wedi cael diwrnod da a'i fod yn falch o'r ffordd y mae'r t卯m yn mynd, ond bod angen dysgu gwersi o'u dechrau siomedig yn y gystadleuaeth a'r golled agos yn erbyn Gwlad yr Haf.