Lori oedd yn cludo ieir wedi troi ar ei hochr ym Mhowys
- Cyhoeddwyd
Mae dyn wedi cael ei drin gan feddygon ar ôl i lori oedd yn cludo ieir droi ar ei hochr ym Mhowys.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad ar yr A44 am tua 03:00 fore Gwener.
Bu'n rhai galw am filfeddyg hefyd wedi iddi ddod i'r amlwg bod y cerbyd yn cludo ieir.
Fe dderbyniodd gyrrwr y lori driniaeth feddygol ar ôl cael problemau gyda'i anadl.
Bu'n rhaid cau'r ffordd i'r ddau gyfeiriad rhwng Penybont a Llanfihangel Nant Melan, tan 15:00.