Heddlu'n cyflwyno pwerau ychwanegol mewn tair tref
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu'r De wedi cyflwyno pwerau ychwanegol mewn tair tref yn dilyn pryderon am ymddygiad criwiau o bobl ifanc.
Mae'r llu wedi cyflwyno gorchymyn gwasgaru ar gyfer canol trefi Aberdâr, Aberpennar a Phontypridd dros benwythnos Gŵyl y Banc i atal ymddygiad gwrth-gymdeithasol a sicrhau diogelwch y cyhoedd.
Roedd hynny yn sgil adroddiadau fod grwpiau mawr o bobl ifanc wedi trefnu i ymgynnull ym Mhontypridd gyda'r bwriad i drefnu cythrwfl.
Yn ôl un cynghorydd lleol roedd tua 300 o bobl ifanc o bob rhan o'r Cymoedd yn y dref nos Wener a "bod 'na fygythiad o drais eitha difrifol a defnydd o arfau".
Mae'r gorchymyn gwasgaru yn rhoi'r hawl i blismyn a swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu wahardd person o ardal am gyfnod o hyd at 48 awr.
Dywedodd yr heddlu eu bod wedi gwasagaru torf o bobl ifanc oedd wedi ymgasglu ym Mharc Ynysangharad, Pontypridd nos Wener yn dilyn galwadau gan aelodau'r cyhoedd yn mynegi pryder.
Mae cynghorydd sy'n cynrychioli tref Pontypridd ar Gyngor Rhondda Cynon Taf wedi canmol yr heddlu am weithredu'r gorchmynion ond mae'n dweud "bod angen cadw llygad barcud" ar y sefyllfa.
Dywedodd Heledd Fychan wrth raglen Post Cyntaf: "'Dan ni'n lwcus iawn bod dim byd difrifol wedi digwydd hyd yma ond yn amlwg mae o'n bryder bod hyn wedi digwydd - mae 'na dal bygythiad o ran heddiw ym Mhontypridd.
"Nos Wener mi welson ni nifer fawr o bobol ifanc - hyd at tua 300 o bobol ifanc yn ymgynnull yn nhre' Pontypridd a'r hyn oedd yn eitha' brawychus [oedd] bod 'na fygythiad o drais eitha' difrifol a defnydd o arfau.
"Fel unrhyw dre' ma' 'na bobol yn ymgynnyll ond 'dyn nhw ond yna i fwynhau cwmni ei gilydd. Y niferoedd oedd yn nhref Pontypridd nos Wener - dyna oedd yn anarferol tro 'ma.
"Mi fyddan ni'n trafod gyda'r heddlu i weld pa wybodaeth sydd ganddyn nhw oherwydd mi oedd 'na achosion penodol o drais wedi eu trefnu, o be' 'dan ni'n ddeall, rhwng grwpia' o bobol ifanc."
Ychwanegodd Ms Fychan bod "toriada' 'dan ni 'di gweld dros y blynyddoedd dwytha" a diffyg "gofoda' diogel o fewn tre' Pontypridd gyda'r nos i'n pobol ifanc ni" yn ffactor y mae gofyn i'r awdurdodau lleol ystyried, ond bod amgylchiadau'r penwythnos yma yn "unigryw".
Roedd eisoes wedi ysgrifennu ar Twitter: "Mae toriadau i raglenni ar gyfer pobl ifanc a chlwbiau ieuenctid yn golygu bod y strydoedd yn cael eu defnyddio fel mannau cyfarfod."
"Mae angen i Gyngor Rhondda Cynon Taf adolygu darpariaeth pobl ifanc ar frys".
Yn ôl Heddlu'r De, mae'r gorchymyn wedi galluogi nhw i atal "problemau sylweddol".
Maen nhw'n awyddus i glywed gan unrhyw all gynnig gwybodaeth pam fod torf o bobl ifanc wedi ymgasglu ym Mhontypridd nos Wener, ac yn apelio i'r cyhoedd gysylltu â nhw os oes awgrym bod unrhyw drafferthion eraill yn y arfaeth dros Ŵyl y Banc.