Presgripsiwn i logi beiciau am ddim yng Nghaerdydd

  • Cyhoeddwyd
nextbike
Disgrifiad o’r llun,

Fe lansiodd nextbike yng Nghaerdydd ym mis Mai 2018

Bydd modd derbyn presgripsiwn ar gyfer llogi beiciau am ddim fel rhan o gynllun peilot newydd yng Nghaerdydd.

Mae hawl gan feddygon teulu mewn dwy feddygfa yn y brifddinas i gyfeirio cleifion at y cynllun o ddydd Mercher ymlaen.

Bydd modd i ddoctoriaid gynnig chwe mis o aelodaeth nextbike i bobl sydd angen gwneud mwy o ymarfer corff neu sydd angen colli pwysau.

Dywedodd Dr Tom Porter o Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro bod y cynllun "yn un o'r ffyrdd gorau i leihau risg i iechyd drwy gryfhau eich ffitrwydd cardiofasgwlaidd".

Dyma'r cynllun cyntaf o'i fath yn y Deyrnas Unedig yn ôl y bwrdd iechyd, a bydd ar gael ym meddygfa Lansdowne a Chanolfan Iechyd Y Tyllgoed.

Ar ôl derbyn y presgripsiwn bydd cleifion yn derbyn côd sy'n eu galluogi i logi'r beiciau am ddim.

'Balch iawn'

Fe lansiodd nextbike yng Nghaerdydd ym mis Mai 2018, ac yn ôl y cwmni mae ganddyn nhw 500 o feiciau mewn 27 safle o gwmpas y ddinas.

Er bod prisiau yn amrywio, mae unigolion sydd ddim yn aelodau o nextbike yn gorfod talu £1 am ddefnyddio'r beic am hanner awr, ac yna £1 ychwanegol am bob hanner awr ar ben hynny.

Ychwanegodd Dr Porter y bydd cleifion yn cael cyfle i roi eu barn am y cynllun, gyda'r posibilrwydd o'i ehangu ar hyd y ddinas yn ddiweddarach.

Yn ôl aelod o gabinet Cyngor Caerdydd, Susan Elsmore, mae'r ddinas yn "hynod o ffodus ac yn falch iawn o allu cynnig y cyfle hwn i bobl".