Cyfradd ddiweithdra'n codi i 4.5% yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Fe wnaeth y gyfradd ddiweithdra godi yng Nghymru rhwng Ionawr a Mawrth - yr unig le yn y DU i weld cynnydd.
4.5% yw'r gyfradd yng Nghymru, o'i gymharu â 4.1% rhwng Hydref a Rhagfyr y llynedd.
Fe wnaeth y ffigwr ar gyfer y DU cyfan ostwng i 3.8%.
Mae cyfradd y bobl sydd mewn gwaith yng Nghymru wedi gostwng hefyd, gyda'r gyfradd yma yn 75.4% o'i gymharu â 76.1% ar gyfer y DU cyfan.
Er y ffigyrau diweddar mae nifer y bobl mewn gwaith yng Nghymru wedi cynyddu dros y flwyddyn ddiwethaf, gyda 34,000 yn fwy o bobl mewn gwaith nawr o'i gymharu â'r un cyfnod y llynedd.
Dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns bod economi Cymru'n "parhau i ddangos twf trawiadol, gyda Chymru'n profi'r cynnydd mwyaf yng nghyfradd y rheiny mewn gwaith o unrhyw ran o'r DU yn y flwyddyn ddiwethaf".
Tra'n croesawu'r cynnydd yn nifer y rheiny mewn gwaith dros y flwyddyn ddiwethaf, rhybuddiodd Gweinidog Economi Cymru, Ken Skates ein bod mewn "amser heriol ac ansicr i fusnesau".