Cyn-reolwr Cymru, Chris Coleman yn colli'i swydd yn China

  • Cyhoeddwyd
Chris Coleman (dde) gyda'i is-hyfforddwr, Kit Symons yn ChinaFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Chris Coleman (dde) gyda'i is-hyfforddwr, Kit Symons yn China

Mae cyn-reolwr Cymru, Chris Coleman wedi cael ei ddiswyddo fel prif hyfforddwr Hebei China Fortune.

Symudodd Coleman i China 11 mis yn ôl, ond mae'n gadael y clwb un safle uwchben safleoedd y cwymp gyda dim ond un fuddugoliaeth mewn naw gêm y tymor hwn.

Fe arweiniodd Coleman ei wlad i rownd gyn-derfynol Euro 2016 yn Ffrainc.

Ym mis Tachwedd 2017, fe ymddiswyddodd fel rheolwr Cymru gan symud i Sunderland.

Ond cafodd ei ryddhau o'i gytundeb fel rheolwr Sunderland ar ôl i'r clwb ddisgyn o'r Bencampwriaeth ym mis Ebrill 2018.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd cefnogwyr Hebei China Fortune yn awyddus i weld Chris Coleman yn gadael y clwb