Cais i ailystyried datblygiad dadleuol ym Mhwllheli

  • Cyhoeddwyd
Allt SalemFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r tir dan sylw ger safle Grŵp Llandrillo Menai ar Allt Salem ym Mhwllheli

Mae un o drigolion Pwllheli, oedd wedi gwrthwynebu cais cynllunio i godi 15 o dai gerllaw, wedi gofyn i brif swyddog cynllunio'r Cynulliad alw'r cais cynllunio i'w ystyried ymhellach.

Mae Pwyllgor Cynllunio Cyngor Gwynedd wedi rhoi caniatâd amodol i Grŵp Llandrillo Menai godi tai, yn cynnwys pum tŷ fforddiadwy, ar dir ger safle Coleg Meirion Dwyfor yn ardal Penrallt.

Roedd trigolion cyfagos wedi gwrthwynebu'r cais gan ddadlau fod y lôn sy'n arwain at y safle, Allt Salem, yn rhy gul a phrysur i ddygymod a rhagor o drafnidiaeth, ac am nad oes palmant arni.

Ond yn ôl swyddogion cynllunio'r cyngor doedd dim tystiolaeth i awgrymu fod y ffordd yn beryglus, a cafodd y cais ei ganiatáu, yn amodol ar gytundeb 106 sy'n sicrhau arian gan y datblygwr tuag at gaeau chwarae.

1,200 o gerbydau

Bellach mae un o'r trigolion, Jennifer Marland wedi gofyn i adran gynllunio'r Cynulliad alw'r cais i mewn i roi ystyriaeth bellach iddo.

"Does yna ddim traffic monitoring wedi cymryd lle yn ystod cyfnod paratoi y cais yma, tan nes i ofyn ar 23 Ebrill," meddai.

"Y diwrnod wedyn cyrhaeddodd monitor ar yr allt. Mae o wedi recordio am wythnos ac mae'n dangos, er bod y coleg wedi cau dros y Pasg, bod yna 1,200 o gerbydau'r dydd yn defnyddio'r allt.

"Maen nhw [Cyngor Gwynedd] yn dweud wrtha i fod yn hynny'n ddistaw. Wel mi fydd o yn ddistaw achos roedd y coleg wedi cau ac roedd yna Ŵyl y Banc."

Buddsoddi £90m

Dywedodd un arall oedd yn gwrthwynebu'r cais, William Williams: "Mae'n mynd i effeithio ar ardal eang, o'r hen Gapel Salem i fyny i'r top ac ymhellach.

"Mi fydd yna draffig ofnadwy pan fydd y tai yma yn cael eu hadeiladu. Mae'n mynd i greu cynsail hefyd - does yna ddim dadl ynglŷn â hynny - y bydd mwy a mwy o dai yn cael eu hadeiladu allan o Bwllheli."

Dywedodd llefarydd ar ran Grŵp Llandrillo Menai fod y sefydliad yn buddsoddi £90m dros bum mlynedd mewn cyfleusterau newydd ar gyfer dysgwyr yng ngogledd-orllewin Cymru, ac er mwyn fforddio'r datblygiadau bod yn rhaid iddyn nhw ystyried gwerthu tir nad ydy'r sefydliad ei angen.

Er mwyn sicrhau'r gwerth uchaf posib ar gyfer y tir yn Allt Salem gofynnwyd am ganiatâd cynllunio i godi cartrefi ar y safle.

"Cafodd y cais ei gyflwyno, ei ystyried, a'i gymeradwyo yn llawn... yn unol â'r broses ddemocrataidd," meddai'r llefarydd.