Gwerthu oriawr y pêl-droediwr Billy Meredith mewn ocsiwn
- Cyhoeddwyd
Bydd oriawr un o sêr mwyaf hanes pêl-droed Cymru yn cael ei werthu yn yr haf ar ôl eistedd mewn cwpwrdd am dros hanner canrif.
Ar ôl i Sheila Stevenson, 87 oed o Cosby ger Caerlŷr, fynd ag oriawr ei mab i'w lanhau, daeth i wybod bod yr eitem yn eiddo'n wrieddiol i gyn-chwaraewr Manchester United a Manchester City, y Cymro Billy Meredith.
Roedd ysgrifen ar yr oriawr yn dweud ei fod yn anrheg i Meredith er mwyn nodi buddugoliaeth Man City yng Nghwpan FA Lloegr 1903-1904.
Dywedodd Mrs Stevenson: "Dydw i na'r mab yn ddilynwyr pêl-droed mawr. Rydyn ni'n gefnogwyr rygbi ac felly nid oedd syniad gennyn ni am ba mor arwyddocaol oedd yr oriawr."
Ar ôl cael ei gadw mewn cwpwrdd am 51 o flynyddoedd wedi'r glanhau, mae Mrs Stevenson a'i mab Simon wedi penderfynu gwerthu'r eitem mewn ocsiwn.
Fe chwaraeodd Meredith, a gafodd ei eni yn Y Waun ger Wrecsam, 48 o weithiau dros Gymru a chafodd ei dderbyn i Oriel Anfarwolion Chwaraeon Cymru yn 1990.
'Cristiano Ronaldo yr oes a fu'
Cafodd yr oriawr ei roi i Mr Stevenson gan ei hen daid, Jack Reid, oedd yn ffrindiau gydag un o gyd-chwaraewyr Meredith, Samuel Cowan.
Dywedodd y prisiwr, Allistar Lofley fod gan yr oriawr "bwysigrwydd arbennig yn y byd chwaraeon".
"Mae Meredith wedi cael ei ddisgrifio fel un o sêr y cyfnod, fel Cristiano Ronaldo yr oes a fu. Fe chwaraeodd tan ei fod yn 47 ac roedd yn enwog am gnoi toothpick yn ystod gemau," meddai.
Meredith sgoriodd unig gôl y gêm ym muddugoliaeth Man City yn erbyn Bolton Wanderers yn rownd derfynol y gwpan yn 1904.
Bydd yr eitem yn cael ei werthu mewn ocsiwn yn Derby ar 22 Awst, ac mae disgwyl iddo ddenu cynigion o dros £4,000.