Cyfoeth cerddorol gogledd ddwyrain Cymru

  • Cyhoeddwyd
Leigh JonesFfynhonnell y llun, Leigh Jones
Disgrifiad o’r llun,

Mae Leigh Jones yn rhedeg y label recordio RiffRock Records yn Llundain

Mae FOCUS Wales, gŵyl arddangos sy'n hyrwyddo'r diwydiant cerddoriaeth yng Nghymru, yn cael ei chynnal yn Wrecsam y penwythnos yma am y nawfed tro. Mae'r ŵyl yn prysur dod yn ffefryn yn nghalendr mynychwyr gwyliau cerddoriaeth y DU.

Un o'r bobl hynny yw Leigh Jones, Cymro sy'n byw yn Llundain, ac fe rannodd rai o'r rhesymau pam fod y gogledd ddwyrain yn ardal o gyfoeth o gerddoriaeth amgen Gymraeg.

Mae gogledd ddwyrain Cymru yn aml yn cael ei gweld fel ardal Seisnig, ac er bod canran siaradwyr Cymraeg yr ardal yn isel, mae gan ardal fy magwraeth hanes o arbrofi di-gyfaddawd, ac o arloesi ym myd cerddoriaeth amgen Gymraeg.

Dyma dri o'r bandiau hynny sydd wedi cael dylanwad arnaf i dros y blynyddoedd.

Jakokoyak

Daeth Jakokoyak, neu Rhys Edwards, i'r amlwg drwy gynhyrchu cerddoriaeth electroneg arbrofol ar ddechrau'r ganrif yma. Yn fuan ar ôl iddo ryddhau ei record hir gyntaf, enillodd nifer o wobrau yng Nghymru ac fe ddaliodd sylw'r Super Furry Animals ac aeth gyda nhw ar daith i Japan i'w cefnogi nhw.

Disgrifiad o’r llun,

Rhys Edwards sy'n gynhyrchydd ac yn perfformio dan yr enw Jakokoyak

Yn wreiddiol o'r Wyddgrug, Rhys sydd tu ôl i'r label Peski. Yn anfodlon i ddilyn eraill, mae Peski wedi bod yn gartref i artistiaid cael rhyddid i arbrofi ac i fynegi eu gweledigaeth greadigol heb gyfaddawd o gwbl. Yn ogystal â hyn, mae'r label wedi bod yn gyfrifol am nosweithiau chwedlonnol amlgyfrwng celfyddydol yng Nghaerdydd, sef Peskinacht.

Rhyddhaodd label Peski record hir gyntaf Gwenno, Y Dydd Olaf. Rhys gynhyrchodd yr albwm a'i olynydd Cernyweg, Le Kov - dwy albwm sydd wir wedi gwneud argraff ar y byd ymhellach na ffiniau Cymru.

Mwsog

Wrth edrych yn ôl, efallai mae trwy 'nabod aelodau Mwsog tra'n tyfu fyny sydd wedi fy arwain i ar drywydd gyrfa mewn cerddoriaeth. Roeddwn i o gwmpas y tŷ lle ysgrifennwyd a recordiwyd ei record hir gyntaf nhw, ac mae'n debyg fod y cynnwrf creadigol hwnnw (neu'r partïon anhygoel pan fu rhieni Sam a Wil i ffwrdd) wedi cael effaith estynedig arna i.

Ffurfiwyd y band yn Ysgol Glan Clwyd, ac meithrinodd Mwsog nifer o gerddorion blaenllaw cyfoes Cymru. Sefydlodd Sam Roberts HMS Morris gyda Wil, sydd bellach yn chwarae efo Lleden; dechreuodd R.Seiliog ei yrfa cerddorol gyda Mwsog, a chyn iddo fabwysiadu'r enw H.Hawkline roedd Huw Evans yn lleisydd i Mwsog.

Disgrifiad o’r llun,

Cyn-aelodau Mwsog, Sam a Wil Roberts, gyda'u band HMS Morris

Yn dilyn olion traed y Super Furries neu Gorky's o greu cerddoriaeth pop seicadelic, roedd gwaith cynnar Mwsog yn anhygoel o aeddfed, ac ar adegau yn dywyll, yn enwedig o ystyried mai yn eu harddegau oedden nhw.

Anelog

Fel un o fandiau BBC Gorwelion yn 2016, mae Anelog o Ddinbych wedi gadael marc ar y sîn roc Gymraeg gyda'u synth-bop hollol anghategoreiddiol.

Ffynhonnell y llun, BBC Gorwelion
Disgrifiad o’r llun,

Anelog un o fandiau cynllun Gorwelion 2016

Mae gan ganeuon Anelog nodweddion arallfydol, ond eto mae 'na gysur cyfarwydd ynddynt. Mae'n debyg taw rhywbeth personol yn unig ydy hwn, ond mae gwrando arnyn nhw'n gwneud i mi deimlo fel fy mod i ar goll yn y niwl ar ben Mynydd Hiraethog. Mae yna synnwyr cryf o leoliad yn dod trwy eu caneuon nhw.

Efallai'r ymdeimlad yma o leoliad sydd yn apelio at Gymro sy'n byw yn Llundain, ond heb os mae Anelog - yn arbrofol efo synnwyr cryf o alaw ddeniadol - yn nodweddiadol o hanes cerddoriaeth bop yr ardal.

Hefyd o ddiddordeb: