Trafod symud Rali GB Cymru i Ogledd Iwerddon

  • Cyhoeddwyd
Rali GB Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae Rali GB Cymru yn cael ei gynnal yn ardal Llandudno

Fe all Rali GB Cymru symud i Ogledd Iwerddon flwyddyn nesaf - er bod gan Lywodraeth Cymru gytundeb i'w gynnal yma tan 2021.

Dywedodd Hugh Chambers - prif weithredwr y corff llywodraethu, Motorsport UK - fod cytundeb gyda Llywodraeth Cymru i gynnal y rali yng Nghymru eleni, yn 2020 a 2021.

Ond dywedodd hefyd fod trafodaethau'n parhau gyda gwahanol randdeiliaid cyhoeddus a phreifat yng Ngogledd Iwerddon, gyda'r bwriad o'i gynnal yno'r flwyddyn nesaf.

"Yn amlwg, mae angen i ni sicrhau dyfodol y rali," meddai Mr Chambers wrth BBC Cymru.

"Ochr yn ochr â'n trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru, roeddem hefyd yn siarad â Gogledd Iwerddon.

"Fe wnaethon ni sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn ymwybodol, ac roedd yn sgwrs aeddfed iawn.

"Os byddai'n mynd i Ogledd Iwerddon, byddem yn gohirio'r cytundeb gyda Llywodraeth Cymru am flwyddyn, ac mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y byddan nhw'n ystyried hynny.

"Maen nhw'n ymwybodol iawn trwy eu cydweithwyr yng Ngogledd Iwerddon bod y trafodaethau hyn yn digwydd."

Buddsoddiad 'sylweddol iawn'

Dywedodd Mr Chambers nad oedd penderfyniad wedi'i wneud, a bod cytundeb ar hyn o bryd i'w gynnal yng Nghymru'r flwyddyn nesaf.

Ychwanegodd pe byddai'n symud i Ogledd Iwerddon flwyddyn nesaf, fe fyddai'n dychwelyd i Gymru'r flwyddyn ganlynol.

Yn draddodiadol, meddai, roedd y rali'n ymweld â gwahanol rannau o'r Deyrnas Unedig - mae'n cael ei alw'n Rali GB Cymru ar hyn o bryd am mai Cymru ydy'r "noddwr".

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Elfyn Evans oedd y Cymro cyntaf i ennill Rali GB Cymru yn 2017

Mae'r trefnwyr yn ystyried symud y rali o amgylch y DU.

"Fe wnaethom ofyn i Lywodraeth Cymru os oedden nhw'n gyfforddus gyda ni'n cael y sgwrs honno ac mi roedden nhw," meddai Mr Chambers.

Ychwanegodd fod gostyngiad wedi bod yn y buddsoddiad gan Lywodraeth Cymru yn yr 20 mlynedd ddiwethaf, ond bod y buddsoddiad yn dal i fod yn un "sylweddol iawn".

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydyn ni'n canolbwyntio ar gynnal digwyddiad llwyddiannus eto eleni o safle newydd yn Llandudno, sy'n wych i'r gwylwyr.

"Byddwn yn trafod y posibilrwydd o gynnal digwyddiadau yn y dyfodol gyda'n partneriaid, ar ôl gwerthuso digwyddiad eleni yn fanwl, i wneud yn siŵr ei fod yn parhau i sicrhau gwerth am arian i drethdalwyr Cymru."