Llundain yn llwyfannu Neges Ewyllys Da yr Urdd 2019
- Cyhoeddwyd
Mae'r Urdd wedi lansio'i neges flynyddol o Heddwch ac Ewyllys Da y tu allan i Gymru eleni - trwy bartneriaeth gydag academi yn Llundain.
Y cynnydd mewn achosion o drywanu, saethu a rhyfel yw'r ysbrydoliaeth eleni - gyda'r neges yn galw ar wleidyddion i wneud mwy i'w hatal.
Mae'r neges yn ffrwyth llafur Bwrdd SyrIFanC a myfyrwyr yr Eastside Young Leaders Academy (EYLA) yn Nwyrain Llundain.
Cafodd y neges newydd ei chroesawu gan Faer Llundain, Sadiq Khan, ac Eluned Morgan AC o Lywodraeth Cymru.
Dan yr enw 'Llais', mae'r neges eleni yn canolbwyntio ar roi llais i bobl ifanc yn sgil achosion o drywanu, saethu a rhyfel.
Wrth i ddata diweddar ddangos bod troseddau gyda chyllyll ar gynnydd, mae'r Urdd wedi ymuno â'r Eastside Academy i ganolbwyntio ar roi llais i bobl ifanc.
Dyma destun sy'n agos at galonnau nifer o fyfyrwyr yr Academy, wedi i fachgen ysgol 14 oed, Jaden Moodie, gael ei drywanu fis Chwefror.
Dywedodd ffrind a chyd-ddisgybl iddo, Tanner, aelod o'r EYLA, y dylai ei farwolaeth fod yn sbardun ar gyfer newid o fewn cymuned pobl ddu.
'Dyfodol mwy disglair'
Yn ôl Ray Lewis, cyfarwyddwr yr EYLA, mae eu "myfyrwyr yn gwybod yn rhy dda y gall anwybodaeth, pryder a chamddealltwriaeth arwain at drais, sy'n aml yn farwol".
"Rydym yn ddiolchgar i'r Urdd am estyn allan atom a darparu llwyfan i'n harweinwyr ifanc i hyrwyddo'r newidiadau sydd eu hangen arnyn nhw i fyw heb ofn ac i godi eu dyheadau am ddyfodol mwy disglair."
Bydd y neges eleni hefyd yn tynnu sylw at droseddau saethu yn yr Unol Daliaethau, ac mae'r Sandy Hook Promise - sy'n ymgyrchu dros addysgu am beryglon gynnau - wedi dangos eu cefnogaeth.
Dywedodd Sian Lewis, prif weithredwr yr Urdd: "Mae'r bartneriaeth hon yn mynd â'n hanes balch o estyn allan i'r byd i lefel hollol wahanol, ac mae'n adeg amserol i'n hatgoffa o'r angen hollbwysig i leisio pryderon pobl ifanc, y rhai sy'n dioddef trais a chamddealltwriaeth rhwng cymunedau yn amlach na pheidio.
"Mae'n wych i weld yr ymatebion yn ein cyrraedd yn barod gan unigolion a grwpiau ar draws y byd sydd wedi rhannu'r neges."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Tachwedd 2018
- Cyhoeddwyd15 Mai 2019