Heddlu'n ymchwilio i ddiflaniad ceffyl wnaeth ddisgyn
- Cyhoeddwyd

Roedd y ceffyl wedi disgyn y tu allan i Stadiwm Principality, Caerdydd
Mae'r heddlu yn ymchwilio i ddiflaniad ceffyl ddaeth i sylw cyhoeddus ar ôl cael ei ganfod yn gorwedd yng nghanol Caerdydd ar 20 Ebrill.
Roedd y ceffyl wedi cael lloches dros dro yn Whispering Willows Sanctuary ym Mhontardawe ond y gred yw iddo gael ei ddwyn.
Dywed Heddlu'r De eu bod yn ymchwilio i'r lladrad tra bod elusen yr RSPCA yn dweud eu bod yn poeni am les yr anifail.
Pan ddaeth swyddogion o hyd i'r ceffyl yng Nghaerdydd ar 20 Ebrill, roedd yn dioddef o flinder llethol a thrawiad gwres.
Ar y pryd cafodd dau ddyn eu harestio ynglŷn â'r digwyddiad ar amheuaeth o achosi dioddefaint diangen ond eu rhyddhau heb gyhuddiad.

Cafodd yr anifail ei gymryd i loches anifeiliaid ym Mhontardawe
Ar ôl cael ei symud i Bontardawe, fe gytunodd perchnogion yr anifail ei roi dan oruchwyliaeth yr RSPCA.
Dywedodd Simon Evans, arolygwr gyda'r RSPCA: "Mae'r RSPCA yn poeni yn fawr am ddiflaniad y ceffyl.
"Rydym wedi bod yn cynnal ymchwiliad ar ôl i'r anifail gael ei ganfod ar lawr yng nghanol Caerdydd," meddai.
"Roedd canolfan ym Mhontardawe wedi bod yn gofalu am y ceffyl, ond mae adroddiadau ei fod wedi ei ddwyn."
"Mae lladrata yn fater i'r heddlu - a gallai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â nhw neu gyda ni ar ein llinell apêl ar 0300 123 8018."
Dywed Heddlu'r De eu bod yn credu fod y ceffyl wedi ei ddwyn rhwng 19:45 3 Mai a 10:00 4 Mai.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Ebrill 2019