Fandaliaid yn targedu swyddfa AS Llafur, Chris Bryant

  • Cyhoeddwyd
Swyddfa Chris BryantFfynhonnell y llun, Chris Bryant
Disgrifiad o’r llun,

Fe gafodd y difrod ei wneud i swyddfa etholaeth Chris Bryant yn Nhonypandy

Mae fandaliaid wedi paentio'r gair "traitor" ar flaen swyddfa etholaeth AS Llafur y Rhondda, Chris Bryant.

Mae Mr Bryant o blaid gweld y DU yn aros yn rhan o'r Undeb Ewropeaidd, ac mae wedi dweud na fydd y graffiti ar ei swyddfa yn Nhonypandy yn newid ei feddwl am Brexit.

Fe ddigwyddodd y fandaliaeth yn oriau man fore Sadwrn a doedd na ddim aelod o staff yn bresennol yn yr adeilad ar y pryd.

Ond, dywedodd Mr Bryant fod y graffiti yn annymunol i'w staff, sydd eisoes wedi wynebu sylwadau sarhaus ers y refferendwm yn 2016.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Chris Bryant wedi bod yn AS dros y Rhondda ers 2001

"Dwi ddim yn deall pam fod pobl yn meddwl fod treulio 10 munud yn chwistrellu paent ar orchudd ffenestr am wneud i mi newid fy meddwl [am Brexit].

"Doedden ni ddim yn arfer byw mewn democratiaeth fel hyn - roedden ni'n yn arfer parchu safbwyntiau gwahanol," meddai.

Dywedodd Mr Bryant hefyd wrth BBC Cymru ei fod yn disgwyl i'r awyrgylch anghyfeillgar barhau nes bydd San Steffan yn dod i gytundeb ar Brexit.

Mae ASau ac ymgyrchwyr eraill wedi dangos eu cefnogaeth ar y cyfryngau cymdeithasol wrth i Mr Bryant wneud trefniadau ychwanegol o ran diogelwch ei swyddfa.

Mae Heddlu'r De wedi ymateb drwy ddweud eu bod yn ymchwilio i adroddiad o ddifrod troseddol i swyddfa Chris Bryant.

Mae'r llu'n gofyn i unrhyw un gyda gwybodaeth i gysylltu gyda nhw.