Criced: Sir Derby â'r llaw uchaf yn erbyn Morgannwg
- Cyhoeddwyd
Sir Derby oedd â'r llaw uchaf yn erbyn Morgannwg ar ddiwrnod agoriadol y gêm ym Mhencampwriaeth y Siroedd ddydd Sul.
Arweiniodd Luis Reece batiwr y tîm cartref ei dîm i gyfanswm parchus iawn o 253-5 wedi 69 pelawd.
Sgoriodd Reece 111 cyn i Dan Douthwaite gymryd ei wiced.
Dyma wiced gyntaf Douthwaite mewn gêm bencampwriaeth ac yntau ddim ond newydd orffen ei arholiadau gradd ym Mhrifysgol Met Caerdydd.
Parhaodd perfformiadau da Sir Derby wrth y llain gydag Alex Hughes wedi sgorio 63 pan ddaeth cawod a golau gwan â'r diwrnod cyntaf i ben.