Garddwr o Fôn yn creu'r 'tomato Cymraeg' cyntaf erioed
- Cyhoeddwyd
Yng ngŵyl arddio'r RHS Chelsea Flower Show ddydd Llun, mae garddwr o Ynys Môn wedi datgelu ei waith o greu'r "tomato Cymraeg" cyntaf erioed.
Bwriad Medwyn Williams oedd creu tomato newydd i'w arddangos mewn sioeau, ond sydd hefyd yn "flasus ac yn dathlu llwyddiannau tîm pêl-droed Cymru".
Yn dilyn llwyddiant y tîm ym mhencampwriaeth Euro 2016, roedd Mr Williams am dalu teyrnged i'r tîm drwy wneud y cysylltiad rhwng ei domato newydd a Chymru.
Cafodd Mr Williams wybod fore Mawrth iddo ennill ei 12fed medal aur yn Chelsea, a hynny am arddangosfa o lysiau.
"Dwy flynedd yn ôl fe wnaethon ni roi'r enw Red Dragon ar y tomato," meddai wrth Cymru Fyw.
"Ond doedd y bobl oedd yn cofrestru llysiau newydd ddim yn licio'r enw yna, a ges i lythyr yn ôl yn gofyn be fyddwn i'n licio ei enwi fo eto.
"Dyma fi'n dweud efo tafod yn fy moch, Y Ddraig Goch, ac wrth gwrs mi dderbynion nhw hwnnw."
Yr enw Cymraeg cyntaf
Cyn belled ag y mae Mr Williams yn ei wybod, Y Ddraig Goch ydy'r enw Cymraeg cyntaf i gael ei gofrestru ar gyfer unrhyw ffrwyth neu lysieuyn.
Eglurodd ei fod wedi llwyddo i greu'r tomato newydd drwy groesi dau fath - Gold Starefo a Cedrico.
"Tydi o ddim 'di cael be' maen nhw'n alw'n genetic engineering," meddai.
"Mae hwn wedi cael ei groesi yn y ffordd draddodiadol o beillio o un planhigyn i'r llall."
Nid yw Mr Williams yn ddieithr i'r sioe yn Chelsea, gan ei fod eisoes wedi ennill 11 o fedalau aur yn y gorffennol, ond dyma'r tro cyntaf ers naw mlynedd iddo gystadlu.
Fe fydd y tomato'n cael ei gyflwyno i'r byd yn y sioe ddydd Llun, ac fe fydd gwesteion arddangosfa Mr Williams yn cynnwys aelodau o'r Teulu Brenhinol a'r gantores Cerys Matthews.
Ychwanegodd Mr Williams: "Dwi'n gobeithio y cawn ni lwyddiant yn Chelsea a bydd pobl yn prynu hadau'r Ddraig Goch, ac yn mynd â nhw adref a'u tyfu nhw.
"Bydd 'na Ddraig Goch yn rhedeg ym mhob man drwy Brydain a'r byd i gyd gobeithio."