Etholiadau Ewrop: 'Gwleidyddiaeth wedi torri'
- Cyhoeddwyd
"Mae Brexit yn llanast ac mae gwleidyddiaeth wedi torri".
"A wnewch chi ein helpu i roi diwedd ar y llanast mae Brexit wedi ei greu?"
"Mae Prydain mewn argyfwng."
"Mae gwleidyddiaeth wedi torri. Gadewch i ni ei newid am byth."
Dyma rai dyfyniadau o'r taflenni sydd wedi cael ei postio drwy'r drws ffrynt.
Wyth plaid sy'n cystadlu yn yr etholiad yma am bedair sedd yma yng Nghymru ond mae'n amlwg bod y rhan fwyaf ohonynt wedi uno oamgylch thema gyffredin.
Ac mae'r polau piniwn yn awgrymu, dolen allanol bod y rhan fwyaf o bobl yn cytuno bod gwleidyddiaeth y Deyrnas Unedig wedi torri.
Dim clem
Mae ffocws gyfan y Senedd yn San Steffan ar Brexit ac ar yr un pryd wedi ei barlysu gan y broses Brexit, i'r graddau nid oes clem 'da ni sut, neu hyd yn oed os, y bydd Brexit yn digwydd bron i dair blynedd ar ôl i Gymru a'r DU bleidleisio dros adael yr Undeb Ewropeaidd.
O ganlyniad, rydym unwaith eto'n dychwelyd i'r blychau pleidleisio ddydd Iau.
Roedd yn bosibilrwydd wnaeth y prif weinidog ei godi wrth iddi ofyn am gefnogaeth i'w chytundeb Brexit cyn yr oedd disgwyl i ni adael yr Undeb ar ddiwedd mis Mawrth.
"Pa mor chwerw a dadleuol fyddai'r ymgyrch etholiadol honno ar adeg pan fyddai gwir angen i'r wlad ddod yn ôl at ei gilydd," gofynnodd Theresa May yn Downing Street.
Rydym bellach yn gwybod yr ateb.
Chwerw? Weithiau. Dadleuol? Heb os.
Fe fydden i hefyd yn defnyddio ansoddair arall - rhyfedd.
Pan fod plaid lywodraethol y DU wedi anwybyddu'r ymgyrch ar y cyfan; pan fod aelodau a gwleidyddion Torïaidd yn dweud yn agored eu bod am bleidleisio dros blaid arall; pan fod arolwg barn, dolen allanol yn awgrymu y gallai Llafur gael ei gwthio i'r trydydd safle yng Nghymru y tu ôl i Blaid Cymru a Phlaid Brexit nad oedd yn bodoli tan ddechrau'r flwyddyn; a phan nad oes gan y rhai sy'n sefyll yn yr etholiad syniad o ba mor hir fyddan nhw yn y swydd, dwi'n meddwl ei fod e'n deg dweud mae wedi bod yn gyfnod anarferol.
Ond, yn eironig, a oes siawns, er gwaethaf, neu efallai oherwydd, y coctel etholiadol rhyfedd hwn, bod fwy o bobl yng Nghymru a'r DU yn pleidleisio yn yr etholiadau yma ar gyfer Senedd Ewrop?
Nid yw'n her anferthol - ar draws y DU, 38.5% yn 2004 yw'r cyfran uchaf sydd wedi pleidleisio yn yr etholiadau yma, tra bod 41.4% wedi bwrw pleidlias yng Nghymru yn yr un flwyddyn.
Mae 'na rai sy'n tybio bod yr etholwyr â mwy o ddiddordeb y tro yma o gofio bod y gystadleuaeth yn cael ei thrin fel ail refferendwm, gyda dwy ochr y ddadl yn awyddus i gofrestru llwyddiant yn y gobaith o ddylanwadu ar y broses Brexit dros y misoedd nesaf.
O'r rheiny sy'n gefnogol o Brexit, mae'r Ceidwadwyr wedi bod yn gwthio'r syniad mai ond nhw sy'n gallu sicrhau Brexit a chytundeb, tra mai cyrraedd fargen Brexit "synhwyrol" yw blaenoriaeth Llafur.
Ar y llaw arall, mae UKIP a'r Blaid Brexit yn dilyn strategaeth o "adael yfory".
Os yw'r arolygon barn yn gywir, yna mae'n ymddangos bod y cyhoedd yn awyddus iawn i gefnogi grwp newydd Nigel Farage.
Nawr, mae yna ddigonedd o bobl, wrth gwrs, sy'n casau y Blaid Brexit, ond roedd yna gannoedd o bobl mewn neuadd llawn yng Nghasnewydd ar ddechrau mis Mai oedd yn dwli arnynt.
'Rhwystredigaeth a dicter'
Y peth mwyaf trawiadol am nifer o'r bobl wnes i gyfarfod yn y gynulleidfa oedd nad o nhw erioed wedi bod i ddigwyddiad gwleidyddol yn eu bywydau - roedd rhwystredigaeth a dicter ynghylch peidio a chyflawni Brexit wedi eu deffro o'u drwmgwsg gwleidyddol.
Ond nid Brexiteers yn unig sydd wedi eu siomi gyda'r broses.
Mae Plaid Cymru, y Democratiaid Rhyddfrydol, y Gwyrddion a Change UK, oll wedi bod yn dadlau dros refferendwm arall a gwrthdroi canlyniad 2016.
Er mwyn ceisio osgoi rhwygo'r bleidlais dros aros yn ur Undeb, mae Plaid Cymru yn gwthio'r ffaith mai nhw yw'r unig un o'r pedair plaid sydd wedi ennill seddi Cymreig yn Senedd Ewrop.
Gyda Brexiteers Ceidwadol digalon yn ystyried cefnogi'r Blaid Brexit, mae Plaid a'r lleill yn dadlau mai nhw yw cartref naturiol cefnogwyr Llafur sydd eisiau aros, ond wedi diflasu gyda safbwynt Brexit y blaid.
Heblaw am ganlyniad etholiad cyffredinol 2017, lle enillodd y Ceidwadwyr a Llafur 82.4% o'r bleidlais (yr uchaf ers 1970), mae'r pleidleisiau cyfunol ar gyfer y ddwy brif blaid wedi bod yn disgyn ers y 1950au.
Felly, ydyn ni ar fin gweld hoelen arall yn arch y system ddwy blaid neu pobl yn pleidleisio'n dactegol mewn etholiad mae pobl yn teimlo sydd o lai o bwys?
'Newid sylweddol'
Yn ôl Dr Huw Lewis o Brifysgol Aberystwyth, mae'r arolygon barn yn awgrymu ein bod yn gweld parhad y "broses o symud i ffwrdd" o'r system ddwy blaid.
Ychwanegodd y darlithydd mewn gwleidyddiaeth ryngwladol: "Nawr, i ba raddau y bydd hwnna'n datblygu i fod yn rhan o'n realiti gwleidyddol ni wrth symud ymlaen yn y blynyddoedd nesaf, bydd rhaid aros i weld.
"Ond bydden naïf meddwl bod newid mor fawr a Brexit yn gallu digwydd heb fod rhai o'n sefydliadau a'n strwythurau gwleidyddol mwyaf sylfaenol ni yn cael ei newid mewn ffyrdd reit sylweddol."
Os awn ni nol at araith y prif weinidog yn Downing Street ym mis Mawrth, dywedodd Theresa May bod wir angen "i'r wlad ddod yn ôl at ei gilydd".
Mae'n anodd gweld sut mae ymgyrch sydd wedi atgyfnerthu dadleuon a rhaniadau'r refferendwm cyntaf yn mynd i helpu gyda'r broses yna.
Os ydy gwleidyddiaeth wedi torri, mae'n edrych yn debyg ein bod ni'n bell o ffeindio ffordd o'i drwsio.