Ar daith i Croatia

  • Cyhoeddwyd
croatiaFfynhonnell y llun, KIRILL KUDRYAVTSEV

Mae ymgyrch tîm pêl-droed Cymru i gyrraedd Pencampwriaethau Ewrop 2020 yn ailddechrau gyda thaith i Croatia.

Bydd bechgyn Ryan Giggs yn chwarae yn erbyn y Croatiaid yn Osijek am 2pm brynhawn Sadwrn 8 Mehefin.

Ond faint ydych chi'n gwybod am y wlad? Dyma ambell ffaith ddiddorol.

line

Maint

Mae Croatia yn 56,594 km2 (21,851 m2) ac yn rhif 127 ar restr gwledydd mwya'r byd. Mae Croatia tua dwywaith a hanner maint Cymru, sydd yn 20,779 km2 (8,023 m2).

Gorwedd Croatia ar lan y Môr Adriatig, ac mae'n ffinio â phum gwlad; Bosnia Herzegovina, Hwngari, Montenegro, Serbia, a Slovenia.

Poblogaeth

Mae gan Croatia boblogaeth o 4.15m, sydd tua miliwn yn fwy na Chymru, sydd â 3.2m o bobl.

Y brifddinas Zagreb yw'r ddinas fwyaf gyda thua 800,000 yn byw yno. Yn dilyn Zagreb, y dinasoedd mwyaf yw Split ac yna Rijeka.

croatia
Disgrifiad o’r llun,

Y 'Zastava Hrvatske', baner swyddogol Croatia. Uwchben y darian mae symbolau o ardaloedd o fewn y wlad; Dubrovnik, Dalmatia, Istria a Slavonia

Hrvatska

Yn y Groasieg, enw'r wlad yw Hrvatska, a'r iaith yw Hrvatski.

Stadion Gradski Vrt, Osijek

Bydd Cymru yn wynebu Croatia yn Stadiwm Gradski vrt yn Osijek. Mae'n gartref i ddau dîm pêl-droed, NK Osijek a Fortuna VNO Osijek.

Mae'r stadiwm yn dal 18,5000 o bobl, a bydd 1,100 o seddi wedi eu neilltuo ar gyfer cefnogwyr Cymru.

Mae Cymru wedi chwarae - a cholli - yn Osijek ddwywaith o'r blaen. 2-0 oedd y sgôr yn 2010 dan reolaeth John Toshack, ac hefyd yn 2012 pan oedd Chris Coleman wrth y llyw.

osijekFfynhonnell y llun, Wikipedia
Disgrifiad o’r llun,

Dyma'r olygfa fydd yn croesawu cefnogwyr Cymru yn Osijek

Arian

Ers Mai 1994 y Kuna yw arian Croatia, gyda 100 Lipa yn gwneud un Kuna. Ar hyn o bryd gall £1 brynu tua 8 kuna a 41 lipa.

Crafats a thei

Mae'r crafat yn dyddio nôl i'r 1630au pan oedd milwyr tâl o Croatia yn cael eu gyrru i Ffrainc. Roedd y milwyr yn gwisgo crafat rownd eu gyddfau - lliain ar gyfer y milwyr cyffredin a rhai sidan moethus i'r swyddogion.

croatiaFfynhonnell y llun, NurPhoto
Disgrifiad o’r llun,

Milwr yn 2014 yn gwisgo crafat i nodi diwrnod rhyngwladol y tei yn Zagreb, Hydref 2014

Enwau poblogaidd

Yr enwau mwyaf poblogaidd i ddynion yw Ivan, Marko, Josip, Stjepan, a Tomislav, ac ymysg yr enwau mwyaf poblogaidd i fenywod mae Marija, Ana, a Ivana.

Game of Thrones

Cafodd Croatia ei ddefnyddio gan HBO fel un o'r lleoliadau i ffilmio'r gyfres Game of Thrones.

Dinas Dubrovnik oedd yn cael ei ddefnyddio rhan amlaf ar gyfer dinas King's Landing yn y gyfres.

dubrovnikFfynhonnell y llun, Loop Images
Disgrifiad o’r llun,

Waliau trawiadol dinas Dubrovnik

Cŵn dalmatian

Mae ardal Dalmatia yn Croatia yn enwog am ei harddwch, ac mae dinasoedd arfordir fel Split a Dubrovnik yn boblogaidd gyda thwristiaid.

Dalmatia hefyd yw cartref y cŵn adnabyddus o'r un enw.

dalmatiansFfynhonnell y llun, Yuri Smityuk

Y tîm pêl-droed cenedlaethol

Fe chwaraeodd Croatia gemau answyddogol yn ystod ac yn dilyn yr Ail Ryfel Byd, hyd 1956. Ond o hynny tan 1991 roeddent yn chwarae fel rhan o dîm Yugoslavia.

Daeth eu gêm gyntaf fel gwlad annibynnol yn 1992, gan chwarae tair gwaith yn erbyn Awstralia. O fewn ychydig flynyddoedd i'w gêm gyntaf roedd y tîm yn mwynhau 'oes aur', gyda sêr fel Davor Šuker, Zvonimir Boban a Slaven Bilić yn helpu'r wlad i orffen yn drydydd yng Nghwpan y Byd Ffrainc 1998.

Mae gan Croatia hyd heddiw lawer o sêr yn eu carfan, fel Ivan Perišić, Ivan Rakitić, a'r capten sy'n chwarae i Real Madrid, Luka Modrić. Yn dilyn Cwpan y Byd 2018, lle orffennodd Croatia yn ail, enillodd Luka Modrić y Ballon d'Or - y wobr sy'n cael ei rhoi i chwaraewr pêl-droed gorau'r byd.

Mae Cymru wedi chwarae yn erbyn Croatia bedair gwaith, gan golli tair a chael un gêm gyfartal.

modricFfynhonnell y llun, VI-Images
Disgrifiad o’r llun,

Chwaraewr ganol cae Real Madrid a Croatia, Luka Modrić

Enwogion eraill

Mae'r pêl-droedwyr Zlatan Ibrahimović (Sweden), Mark Viduka a Mark Bosnich (Awstralia), a Fredi Bobič (Yr Almaen) i gyd o dras Croataidd.

Cafodd yr ymladdwr UFC, Stipe Miočić ei eni yn yr UDA i rieni Croataidd, a daw'r chwaraewyr tenis Goran Ivanišević a Marin Čilić o'r wlad.

Ond nid pobl o'r byd chwaraeon yw'r unig enwogion sydd gyda chysylltiadau â Croatia.

Mae'r cerflunwyr Ivan Mestrovic a Oscar Nemon o'r wlad, felly hefyd y seryddwr Ruder Boskovic a'r nofelydd Ivo Andrić, a chafodd y dyfeisiwr enwog Nikola Tesla ei eni yn Smiljan yng ngorllewin y wlad.

O gefndir Croataidd hefyd mae'r actorion John Malkovich ac Eric Bana, Krist Novoselic o'r band Nirvana, a'r gantores Lorde.

Gwrandewch ar sylwebaeth fyw o'r gêm ar Camp Lawn ar BBC Radio Cymru o 1.30pm

Hefyd o ddiddordeb: