Etholiad Ewropeaidd: Blychau pleidleisio wedi cau

  • Cyhoeddwyd
Gorsaf bleidleisioFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae'r blychau pleidleisio ar gyfer etholiad Ewrop dros Gymru bellach wedi cau.

Mae 32 o ymgeiswyr ar draws wyth plaid yn gobeithio cael eu hethol yn un o bedwar Aelod Seneddol Ewropeaidd i gynrychioli Cymru.

Roedd y blychau yn agor am 07:00 fore Iau ac yn cau am 22:00. Bydd y pleidleisiau yn cael eu cyfrif nos Sul.

Mae'r cyfrif yn digwydd dros dri diwrnod er mwyn i bob un o 28 gwlad yr UE gwblhau'r gwaith.

Mae etholwyr yng Nghymru wedi bod yn dewis ymgeiswyr o restrau un o wyth plaid, a bydd y canlyniadau'n cael eu cyhoeddi yn Hwlffordd.