Sut i gyrraedd Eisteddfod yr Urdd 2019?

  • Cyhoeddwyd
canolfan y mileniwmFfynhonnell y llun, Matthew Horwood

Mae Cyfarwyddwr Eisteddfod yr Urdd, Aled Sion, yn dweud mai "ychydig iawn o reswm" sydd i bobl ddod â'u ceir i'r ŵyl eleni.

Bwriad y mudiad yw gwneud Eisteddfod yr Urdd Caerdydd yn "un o'r gwyliau mwyaf hygyrch a chyfleus i'w chyrraedd".

Maen nhw'n annog ymwelwyr i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus i gyrraedd Bae Caerdydd gan nad oes cyfleusterau parcio penodol.

Mae disgwyl i tua 90,000 o gystadleuwyr ac eisteddfodwyr heidio i'r ŵyl dros yr wythnos.

Wedi deng mlynedd yn teithio amryw o leoliadau Cymru, mae'r Urdd yn dychwelyd i Fae Caerdydd.

Yn debyg i'r Eisteddfod Genedlaethol 2018, mae'r Urdd yn annog ymwelwyr i beidio a dod a'u ceir i'r ŵyl.

Dywedodd Aled Sion, Cyfarwyddwr Eisteddfod yr Urdd: "Gydag amrywiaeth o ddewisiadau trafnidiaeth gyhoeddus ar gael, ychydig iawn o reswm, os o gwbl, sydd i bobl ddod â'u ceir i'r ŵyl.

"Does gan yr Eisteddfod eleni ddim cyfleusterau parcio penodol i geir, ac ry'n ni'n hyderus y bydd hyn yn annog ymwelwyr i ddefnyddio'r dewis eang o drafnidiaeth gyhoeddus sydd ar gael neu i rannu ceir lle bo'n bosib."

Sut i gyrraedd?

Mae trenau Trafnidiaeth Cymru yn rhedeg bob 12 munud rhwng Gorsaf Heol y Frenhines yng nghanol Caerdydd a gorsaf Bae Caerdydd, sydd dafliad carreg o Faes yr Eisteddfod.

I'r rheini sydd angen cyrraedd y rhagbrofion yn gynnar, mae'r trên cyntaf yn gadael Gorsaf Stryd y Frenhines am 06:36 tra bod y trên olaf yn gadael Bae Caerdydd am 23:54.

Mae holl amserlenni'r trenau i'w gweld ar wefan Trafnidiaeth Cymru neu ar yr ap.

Mae beiciau ar gael i'w llogi drwy'r cynllun Nextbike gyda safle i gasglu neu ddychwelyd beiciau ar Faes yr Eisteddfod. Mae manylion pellach ar sut mae'r cynllun yn gweithio a phrisiau ar gael ar eu gwefan.

Mae cwmni Cwch Caerdydd yn teithio'n rheolaidd rhwng canol y ddinas a'r Bae ac yn ôl, gan ddechrau o Barc Bute ger Siop De Pettigrew (CF10 1BJ). Daw'r daith i ben ger Maes yr Eisteddfod yn y Bae. Mae manylion pellach, gan gynnwys amserlenni a phrisiau, ar gael ar wefan y cwmni.

Mae cwmni AquaBus hefyd yn teithio'n rheolaidd o ganol y ddinas i'r Bae ac yn ôl, gan ddechrau o Erddi'r Castell. Daw'r daith i ben ger Maes yr Eisteddfod yn y Bae. Mae'r cwch yn addas ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn. Mae manylion pellach, gan gynnwys amserlenni a phrisiau, ar gael ar wefan y cwmni.

Os na ellir osgoi mynd â char, mae sawl maes parcio cyhoeddus ym Mae Caerdydd gyda llefydd penodol ar gyfer pobl anabl a'r rhai sydd â bathodynnau glas:

Maes Parcio Cei'r Forforwyn CF10 5BZ

Maes Parcio Havannah Street CF10 5SG

Maes Parcio'r Morglawdd CF64 1DX

Maes Parcio Q Park

Cyfleusterau gwefru ceir trydan CF10 4PH