Urdd: Diwrnod cyntaf y cystadlu ym Mae Caerdydd

  • Cyhoeddwyd
urdd

Mae'n ddiwrnod cyntaf y cystadlu yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ym Mae Caerdydd gyda phobl yn cael mynediad rhad ac am ddim am y tro cyntaf yn ei hanes.

Mae'r wythnos yn benllanw ar fisoedd o baratoi a chystadlu brwd yn yr Eisteddfodau Cylch a Rhanbarth ar hyd a lled Cymru.

Dywedodd arweinydd Cyngor Caerdydd, y cynghorydd Huw Thomas, wrth groesawu'r ŵyl i'r brifddinas ei bod hi'n bwysig rhoi'r cyfle i bawb cael blas o ddiwylliant Cymraeg.

"Mae angen i bobl deimlo bod diwylliant Cymraeg yn perthyn iddynt hwy - achos mae e."

"Mae o mor neis cael y Steddfod yn ôl yma ac yn mawr obeithio llwyddiant y genedlaethol y llynedd."

Eleni bu cynnydd yn y nifer o gystadleuwyr llwyfan a chelf, dylunio a thechnoleg o 65,423 yn 2018 i 70,530.

Dywedodd Morys Gruffydd Trefnydd yr Eisteddfod: "Rydym yn hynod falch o'r cynnydd yn nifer y cystadleuwyr ac mae'n dda iawn gweld bod ffigurau rhanbarth Caerdydd a'r Fro, sy'n croesawu'r ŵyl eleni, yn dangos cynnydd o 48% rhwng 2018 a 2019 sy'n adlewyrchu'r brwdfrydedd a'r ymroddiad yn lleol."

Mae mynediad i faes yr Eisteddfod am ddim eleni a bydd cyfle i ymweld â dros 100 o stondinau, arddangosfa Celf Dylunio a Thechnoleg yn adeilad y Senedd a llong arbennig RV Mary Anning fel rhan o GwyddonLe yr Eisteddfod.

Bydd yr ŵyl yn cael ei chynnal rhwng 27 Mai - 1 Mehefin.

Digwyddiadau

Bydd rhaid prynu band braich i fwynhau'r cystadlu a rhagbrofion ynghyd â'r holl gystadlu gyda'r hwyr a thocynnau ar gyfer y Sioe Gynradd Troi Heddiw yn Ddoe a'r Sioe Ieuenctid Twiglets, Pwnsh a Buckaroo.

Disgrifiad o’r llun,

Lisa Williams o Wrecsam yn prynu band i gael mynediad i’r rhagbrofion a theatr Donald Gordon

Bydd modd i ymwelwyr fwynhau cerddoriaeth ar ddau lwyfan gwahanol - y Lanfa yng Nghanolfan y Mileniwm a llwyfan awyr agored ar lannau'r Bae o flaen grisiau adeilad y Senedd.

Bydd cyfle hefyd i glywed Gwilym, Kizzy Crawford, Mei Gwynedd a Patrobas fel rhan o bartneriaeth rhwng yr Urdd, Tafwyl a cylchgrawn Selar.

Ers tair blynedd mae'r gig nos Sadwrn wedi bod yn uchafbwynt i gloi yr wythnos, ond eleni am y tro cyntaf bydd gig am ddim ar y nos Wener hefyd yng nghwmni Chroma, Fleur de Lys a Gwilym.

Nos Sadwrn bydd Band Pres Llareggub yn cloi gweithgareddau'r wythnos.

Ddydd Sul dywedodd Cyfarwyddwr Eisteddfod yr Urdd, Aled Sion, mai "ychydig iawn o reswm" oedd i bobl ddod â'u ceir i'r ŵyl eleni a rhybuddiodd bod y lle parcio yn brin.

I weld amserlen lawn o weithgareddau'r Maes am ddim gellir lawrlwytho Ap yr Eisteddfod o urdd.cymru/siop