Diwrnod 1: Morgannwg v Sussex

  • Cyhoeddwyd
Phil SaltFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd batio agoriadol Sussex yn ymosodol ac roedd Salt a Wells wedi cyrraedd 85 rhediad mewn 17 pelawd

Roedd hi'n ddiwrnod bywiog iawn ar ddiwrnod cyntaf gêm Morgannwg yn erbyn Sussex yn Hove.

Penderfynodd Morgannwg fatio gyntaf ond aeth y wicedi i lawr yn gyflym iawn ac erbyn cinio roedd chwe wiced wedi syrthio am 116 rhediad.

Ar ôl cinio gwnaeth Graham Wagg a Nick Selman safiad cadarn gan ychwanegu 72 o rediadau mewn 22 pelawd.

Ond pan gollwyd wiced Wagg ar 44 collodd Morgannwg y min yn eu chwarae ac erbyn te roedd Jared Warner wedi cipio'r tair wiced oedd ar ôl ac felly roedd Morgannwg i gyd allan am 186.

Roedd batio agoriadol Sussex yn ymosodol ac roedd Salt a Wells wedi cyrraedd 85 rhediad mewn 17 pelawd.

Llwyddodd Douthwaite i gipio wiced Wells drwy ddaliad gan Labuschagne ond parhaodd Sussex i sgorio'n gyflym heb golli llawer o wicedi.

Roedd yn ryddhad i Forgannwg fod Douthwaite wedi cipio wiced Salt yn y belawd olaf, a hynny gyda 103 o rediadau i'w enw.

Felly roedd Sussex wedi cloi'r chwarae 208 am 5, 22 rhediad a 5 wiced yn well na Morgannwg.