Traffig cyflym yn 'beryg bywyd' medd pobl Bancyfelin

  • Cyhoeddwyd
Bancyfelin

Mae trigolion Bancyfelin yng ngorllewin Sir Gaerfyrddin yn dwysau eu hymgyrch i geisio cyfyngu ar gyflymdra ceir a cherbydau drwy'r pentre'.

Yn ôl y trigolion, mae mwy o draffig yn teithio drwy'r pentref erbyn hyn, gyda sawl damwain yn yr ardal yn ddiweddar wedi cynyddu'r pryderon am ddiogelwch plant a cherddwyr

Dywed ymgyrchwyr eu bod wedi bod yn galw ar y cyngor sir i ostwng terfyn cyflymder trwy'r pentref ers chwarter canrif.

Mae'r pentref yn gyfochrog â ffordd ddeuol brysur yr A40, a phan fo damwain neu'r traffig yn drwm ar y briffordd - mae gyrru trwy'r pentref hwn yn fodd o osgoi'r tagfeydd.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r sefyllfa yn "beryg bywyd", yn ôl Graham Edwards

Ar yr adegau hynny mae'r sefyllfa yn "beryg bywyd", yn ôl Graham Edwards sy'n gynghorydd cymuned.

"Mae mwy o draffig ar yr hewl fama pan fu damwain yn digwydd, neu ŵyl y banc neu beth bynnag - mae traffig yn dod trwy'r pentre'," meddai.

"Ac fel chi'n gweld dy' nhw ddim yn mynd yn ara' bach. Maen nhw'n mynd yn gyflymach bob tro."

"A gyda thraffig ffermio, a pan fydd y cwbl 'da'i gilydd mae'n dipyn o broblem i fynd a phlant mewn a mas o'r ysgol."

Mae Ysgol Gynradd Bancyfelin yn ymyl y ffordd fawr sy'n mynd trwy'r pentre'.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Trefina Jones yn dweud bod rhieni'r pentre' yn "poeni"

Dywedodd Trefina Jones, pennaeth yr ysgol, ei bod hi hefyd yn poeni am y sefyllfa.

"Pnawn dydd Gwener ddiwethaf roedd 'na ddamwain 'ma ac roedd y traffig yn ofnadwy. Roedd pob un o'r rhieni yn sefyll yn ganol yr hewl wythnos diwethaf yn stopio'r traffig i gyd fel bod y plant yn gallu mynd mas i geir y rheini yn ddiogel."

Un o rieni'r ysgol sy'n anhapus gyda'r sefyllfa yw Dafydd James, sy'n poeni am ddiogelwch plant ar y safle: "Maen nhw'n mynd yn gloi yma, dydyn nhw ddim yn slofi o gwbl.

"Mae'r loris yn hedfan yma... ydw fi'n cael sioc ambell waith. Ma' isio gwneud rhywbeth i stopio'r speedio 'ma, oes."

Dywedodd llefarydd ar ran y Cyngor Sir Gaerfyrddin fod cynlluniau ar y gweill i ostwng y cyflymder i 20 mya, ac y bydd y cyfnod ymgynghori ar y cynlluniau hynny yn dechrau yn fuan.