Taith i Cameroon yn Affrica i enillydd cadair yr Urdd

  • Cyhoeddwyd
Taith i Gameroon i enillydd y gadair

Ar faes Eisteddfod yr Urdd mae'r mudiad wedi cyhoeddi y bydd cyfle i enillydd y gadair fynd ar daith lenyddol i Cameroon yn Affrica.

Os bydd teilyngdod yn y gystadleuaeth ddydd Iau, fe fydd yr enillydd eleni yn cael mynd ar y daith i gymryd rhan mewn gŵyl lenyddol flynyddol sy'n hyrwyddo awduron newydd.

Cynhelir yr African Festival of Emerging Writings yng ngorllewin Cameroon.

Dywedodd Prif Weithredwr yr Urdd, Sian Lewis, y bydd cyfle hefyd i awdur ifanc o Gameroon ymweld â Chymru yn ystod y flwyddyn.

'Cyfle gwych'

Wrth lansio'r cynllun ddydd Iau, dywedodd yr awdur Jon Gower fod hwn yn "gyfle gwbl wych i ysgrifennwr ifanc".

Dywedodd hefyd ei fod yn edrych ymlaen at groesawu awdur o Cameroon pan fydd yn ymweld â Chymru.

Fel yr Eisteddfod, mae'r ŵyl yn Cameroon yn un flynyddol, ond sy'n cael ei chynnal ym mis Chwefror.

Bydd enillydd y gadair yn mynd draw i Cameroon yn 2020.

Mae'r datblygiad o ganlyniad i gydweithio rhwng yr Urdd ac awduron o Gymru ac o Affrica, a gwelwyd lle i greu cysylltiad rhwng ieuenctid Cymru a Cameroon trwy gyfrwng llenyddiaeth.