Dyn wedi marw wrth gerdded ar un o fynyddoedd Eryri
- Cyhoeddwyd

Mae dyn wedi marw wrth gerdded ar ben ei hun ar un o fynyddoedd Eryri.
Cafodd corff y dyn ei gludo i Ysbyty Gwynedd, Bangor ar ôl i achubwyr mynydd ei symud o fynydd Tryfan, yn Nyffryn Ogwen.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw ar ôl i'r dyn gael ei weld gan gerddwyr eraill.
Y gred yw bod y dyn wedi cael ei daro'n wael wrth gyrraedd copa'r mynydd, sy'n 3,000 troedfedd o uchder.