Rhai troseddwyr cyffuriau i wynebu cwrs dan gynllun newydd
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu Gogledd Cymru yn lansio cynllun newydd sy'n galluogi pobl sy'n cael eu dal gyda chyfran fechan o gyffuriau i allu mynychu cwrs yn hytrach na chael eu herlyn.
Bydd y cyrsiau yn debyg i'r rhai sy'n cael eu cynnig i bobl sy'n goryrru ar y ffyrdd.
Yn ôl Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Arfon Jones, bydd y troseddwyr hefyd yn arwyddo cytundeb fydd yn para pedwar mis i addo peidio aildroseddu.
Os na fydd y troseddwyr yn cadw at y cytundeb, fe allent wynebu cael eu herlyn.
'Llwyddo'n Lloegr'
Mae'r cynllun Checkpoint Cymru wedi cael ei ddatblygu ym Mhrifysgol Caergrawnt ac mae wedi bod yn llwyddiant yn nhref Durham yng ngogledd-ddwyrain Lloegr.
Bwriad y cynllun yw torri'r cylchrediad o droseddu, yn ogystal ag arwyddo cytundeb - bydd y troseddwyr hefyd yn derbyn cymorth arbenigol gan wasanaethau adfer.
Bydd y troseddwyr yn ogystal yn cael eu mentora gan dywysyddion . Gallai tywysyddion gynnwys pobl oedd yn arfer bod yn gaeth i gyffuriau neu alcohol.
Bydd y sawl sy'n cael ei ddal gyda chyfran fechan o gyffuriau hefyd yn cael eu cyfeirio at gyrsiau addysgol er mwyn osgoi record droseddol.
'Profiad Bywyd'
Bwriad Mr Jones yw penodi naw tywysydd a fydd wedi eu lleoli mewn tair dalfa'r heddlu ar hyd y gogledd- yng Nghaernarfon, Llai a Llanelwy.
Dywedodd Mr Jones: "Mae tystiolaeth yn dangos fod nifer fawr o droseddwyr gyda phroblemau dan yr wyneb fel problemau cyffuriau, problemau iechyd meddwl neu rhai ariannol a allai fod yn brofiadau erchyll.
"Drwy fynd i wraidd y problemau hynny, bydd y rheiny sy'n ymgymryd â'r cynllun yn llai tebygol o aildroseddu, fel sydd wedi cael ei brofi eisoes yn Durham."
Mae ffigyrau Durham yn dangos bod nifer y rhai sy'n aildroseddu lawr 30% i 18% gyda dim ond 5% o'r rheiny wnaeth gymryd rhan yn methu gorffen y cwrs.
Bydd tywyswyr nawr yn cael eu penodi, ac yn ôl Mr Jones maen nhw'n chwilio am bobl gyda "phrofiad bywyd a hefyd rhai allai fod yn ysbrydoliaeth i rai sy'n awyddus i ddilyn yn ôl eu troed."