Gareth Bennett eisiau bod yn arweinydd newydd UKIP

  • Cyhoeddwyd
Gareth BennettFfynhonnell y llun, Matthew Horwood
Disgrifiad o’r llun,

Mae Gareth Bennett yn Aelod Cynulliad dros ranbarth Canol De Cymru ers 2016

Mae Aelod Cynulliad UKIP, Gareth Bennett wedi cyhoeddi y bydd yn sefyll i fod yn arweinydd newydd y blaid.

Yn gyn-arweinydd UKIP yn y Cynulliad, dywedodd Mr Bennett ei fod yn bwriadu dod â "syniadau newydd" i'r rôl.

Mae'r cyhoeddiad yn dilyn ymadawiad Gerard Batten ar ôl blwyddyn fel arweinydd.

Ni wnaeth UKIP ennill yr un sedd yn yr Etholiad Ewropeaidd fis diwethaf.

'Blynyddoedd caled'

Mr Bennett a Neil Hamilton yw'r unig ddau aelod UKIP sy'n parhau yn y Cynulliad, ar ôl i David Rowlands adael i ymuno â Phlaid Brexit.

Wrth lansio ei ymgyrch, dywedodd Mr Benett bod y "blaid wedi cael amser caled yn y blynyddoedd diwethaf".

"Rydyn ni angen syniadau newydd fydd yn helpu UKIP i symud ymlaen," meddai.

Dywedodd Mr Bennett y byddai'n cyflwyno cerdyn adnabod cenedlaethol, a refferendwm cyson ar bwnc sy'n cael ei ddewis gan y cyhoedd.

"Er enghraifft, pe bai digon o gefnogaeth gan y cyhoedd, fe allan ni gynnal refferendwm ar ail-gyflwyno'r gosb eithaf am droseddau difrifol fel terfysgaeth, ac i'r rheiny sy'n llofruddio plant neu heddweision."

Mae disgwyl i'r blaid gynnal pleidlais am arweinydd newydd a chyhoeddi'r enillydd ar ddydd Sadwrn 10 Awst.