Ben Davies yn ymuno â charfan Cymru
- Cyhoeddwyd

Doedd Aaron Ramsey a Ben Davies ddim yn rhan o garfan gwreiddiol Cymru
Bydd Ben Davies yn ymuno â charfan Cymru ar gyfer gemau rhagbrofol Euro 2020 yn erbyn Croatia a Hwngari.
Doedd Davies ddim yn rhan o garfan wreiddiol Ryan Giggs oherwydd anaf, gyda'i glwb yn dweud y byddai angen llawdriniaeth yn syth ar ôl rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr nos Sadwrn.
Penderfynodd ei glwb, Spurs, i ohirio'r llawdriniaeth yn dilyn asesiad o'r anaf ar ôl y gêm dros y penwythnos.
Bydd Cymru'n teithio i Groatia ar 8 Mehefin cyn mynd ymlaen i Hwngari ar 11 Mehefin.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Mai 2019
- Cyhoeddwyd29 Mai 2019