Ffermwr y Gogarth wedi'i gyhuddo o esgeuluso anifeiliaid

  • Cyhoeddwyd
Daniel JonesFfynhonnell y llun, Paul Harris
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Daniel Jones ei ddewis i reoli'r fferm yn dilyn ymgyrch ryngwladol

Mae ffermwr gafodd ei ddewis o 2,500 o ymgeiswyr i redeg Fferm y Parc ar y Gogarth yn Llandudno wedi ymddangos yn y llys wedi'i gyhuddo o droseddau'n ymwneud ag esgeuluso anifeiliaid.

Cafodd Daniel Jones, 40 oed o Langristiolus ar Ynys Môn, ei ddewis yn 2016 i redeg y fferm 145 erw gwerth £1m am rent o £1 y flwyddyn.

Fe wnaeth Mr Jones ymddangos yn Llys Ynadon Llandudno ddydd Mawrth i wynebu 11 cyhuddiad - rhai yn ymwneud â throseddau honedig yn fuan wedi iddo symud i'r fferm ar y Gogarth.

Mae Mr Jones yn gwadu'r holl gyhuddiadau yn ei erbyn.

Dywedodd yr erlyniad bod yr achos yn erbyn Mr Jones wedi dechrau ar 30 Ionawr 2018 pan wnaeth swyddogion Safonau Masnach Cyngor Conwy ymweld â'r fferm "yn dilyn cwyn gan aelod o'r cyhoedd".

Fe wnaethon nhw ddychwelyd y diwrnod canlynol a chanfod corff tri o ddefaid.

'Targedu Mr Jones'

Mae'r cyhuddiadau yn erbyn Mr Jones yn cynnwys peidio cael gwared ar gyrff defaid oedd wedi marw a pheidio â chadw cofrestr fanwl o symudiadau anifeiliaid.

Dywedodd David Kirwan ar ran Mr Jones bod ei gleient yn cael ei dargedu, ac nad yw'r cyngor wedi erlyn unrhyw un arall am droseddau tebyg yn y pum mlynedd ddiwethaf.

Roedd 2,500 o bobl wedi ymgeisio am y cyfle i rentu'r fferm gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, a Mr Jones a'i deulu gafodd eu dewis.

Dywedodd yr ymddiriedolaeth bryd hynny bod Mr Jones wedi cael ei ddewis "yn dilyn profion o'i sgiliau bugeilio ac asesiad o'i gynllun busnes ar gyfer y fferm".