O Dwrci i Gymru: Drama'n torri tir newydd

  • Cyhoeddwyd
drama
Disgrifiad o’r llun,

O'r dde i'r chwith - yr actores Rebecca Smith-Williams, y dramodydd Meltem Arikan, a'r cynhyrchydd Glesni Price-Jones

Mae 'na amryw o gynyrchiadau theatr dwyieithog wedi bod yng Nghymru dros y blynyddoedd - ond am y tro cyntaf erioed mae'r Gymraeg a Thyrceg yn rhannu'r un llwyfan yn sioe Y Brain/Kargalar.

Mae'n olrhain profiadau'r dramodydd, Meltem Arikan, ar ôl iddi orfod gadael Twrci yn dilyn blynyddoedd o orthrwm a sensoriaeth - a theimlo'n syth ei bod yn perthyn yng Nghymru.

Mae 'na ddwy ferch yn y ddrama - y Mel gaeth, anhyblyg o Dwrci, a'r Gymraes anturus Tem, y ddwy yn rhannu eu meddyliau a'r ieithoedd yn plethu drwy'r ddrama.

Dywedodd Meltem Arikan: "Roedd ein bywydau mewn perygl yn Nhwrci felly mi ddaethon ni i Gymru, ond ar ôl cyrraedd yma fe aeth fy ngŵr yn sâl a marw felly mi gollais i bopeth a theimlo'n isel iawn.

"Wedyn mi ddechreuais i gerdded llawer, a dechrau ysgrifennu'r ddrama hon wrth gerdded o gwmpas Cymru.

"Roeddwn i'n ceisio ysgrifennu'r hyn oedd yn mynd 'mlaen yn fy mhen i - a dyna sydd i'w weld ar y llwyfan.

"Rwy'n credu bod y sioe wedi gweithio allan yn wych - ond mae'n anodd i mi edrych ar y peth yn wrthrychol gan mai fy meddyliau i ydyn nhw ar y llwyfan."

Disgrifiad o’r llun,

Fe agorodd y ddrama yng nghanolfan Pontio nos Fercher

Yn ôl cynhyrchydd y sioe, Glesni Price-Jones: "Be 'da ni'n trio dangos i bobl ydy bod lle 'da chi'n perthyn ddim wastad lle 'da chi'n meddwl fydd o.

"'Da ni'n siarad lot am hunaniaeth ac iaith, a sut mae'r pethau yna'n byw tu mewn i'ch pen.

"Roedd o'n brofiad heriol iawn gweithio mewn sawl iaith. Roedd y trosiadau dros y lle i gyd - o Dyrceg i Saesneg, ac yna'n ôl i'r Gymraeg.

"Ond rwy'n hoffi her a dyna pam 'da ni yma - i wneud gwaith i'r gynulleidfa, i herio nhw hefyd."

Yr actores a'r sgriptwraig Sharon Morgan sydd wedi cyfieithu rhannau o'r ddrama i'r Gymraeg, ac mae 'na gyfleusterau i'w gwylio yn Saesneg hefyd.

Yn dilyn perfformiad agoriadol yng nghanolfan Pontio nos Fercher, bydd y cynhyrchiad gan gwmni Be Aware ar daith ar draws Cymru weddill y mis.