Cau drysau banc olaf Llanymddyfri yn 'drist iawn'
- Cyhoeddwyd
Llanymddyfri yw'r dref farchnad ddiweddaraf i golli pob un o'i banciau, wrth i gangen Barclays gau ei drysau ddydd Mercher.
Mae'r dref eisoes wedi colli eu cangen Natwest, a changen Lloyds yn 2018.
Dywedodd un cynghorydd lleol bod angen i'r gymuned "ddihuno" a cheisio dod o hyd i ateb.
Yn ôl Barclays, bu gostyngiad o 8% yn nefnydd y banc, wrth i fwy droi at fancio ar-lein.
Banc cyntaf Sir Gaerfyrddin
Mae 'na berthynas agos wedi bod rhwng tref Llanymddyfri a bancio - gyda banc cyntaf y dref, Banc yr Eidion Du, yn agor yn ystod cyfnod y porthmyn yn 1799.
Ond dros ddwy ganrif yn ddiweddarach, mae'n ddiwedd cyfnod yn hanes y dref wrth i'r banc olaf gau ei ddrysau.
Roedd Banc yr Eidion Du wedi ei lleoli yn nhafarn y King's Head, a hynny dan ofal y porthmon David Jones.
Rhain oedd y dyddiau da, yn ôl yr hanesydd lleol, Dai Gealy.
"Newidiodd y dre' 'ma i gyd a daeth mwy o bobl yn ariannog. Mae cofnodion o 1730 yn dangos pobl yn disgrifio Llanymddyfri fel 'awful place'.
"Ond ar ôl agor y banc, mae'r disgrifiad o'r dref yn hollol wahanol, gan fod arian wedi newid popeth."
Bu'r banc ym meddiant yr un teulu tan 1909 pan gafodd ei werthu i Fanc Lloyds, ac fe newidiodd yr eidion du i fod yn geffyl du.
"Ma' banc yn fwy na lle i roi arian - mae'n lle ble ma'r gymuned yn cwrdd. Wel ma' hwnna'n anffodus i gyd yn diflannu," meddai Mr Gealey.
"Fi'n gweld e'n drist, yn drist iawn. Ma' 'da chi adeiladau mwya' urddasol yma, a ma' 'da chi stryd nawr ble ma' nhw i gyd wedi cau."
'Bwrw pobl yr ardal'
Yn ôl y banc, bu gostyngiad 8% yn nifer y cwsmeriaid a ymwelodd â'r gangen yn Llanymddyfri yn y ddwy flynedd ddiwethaf, gyda mwy o gwsmeriaid yn bancio ar-lein.
Dyna sydd wedi arwain at "y penderfyniad anodd hwn" meddai'r banc.
Ond yn ôl y cynghorydd sir lleol, Handel Davies mae yna "lot o'r ardal hon heb broadband, heb internet, felly ma' nhw'n dishgwl fod pawb yn mynd ar y we i neud popeth nawr.
"Ond dyw'r adnodd hynny ddim ar gael dros y wlad i gyd. Mae'n mynd i fwrw pobl yn yr ardal hon, a busnesu'r dre' yn ofnadw", meddai.
Caeodd Swyddfa'r Post yn Llanymddyfri'r llynedd, ond mae hi wedi ailagor yn ddiweddar.
"Ma' nhw'n gobeithio cael cashpoint yma, ond dal i aros ma' nhw ar hyn o bryd," meddai Mr Davies.
Agor banc newydd?
Ac yntau wedi cael digon, mae Mr Davies yn credu bod angen i'r gymuned "ddihuno" a dysgu gwersi o'r gorffennol.
"Os o'dd David Jones yn gallu agor banc fan hyn yn 1799 - siŵr y gallwn ni agor banc yng Nghymru.
"Dyw banciau ddim yn edrych ar ôl pobl yn yr un modd a phan gafon nhw ei sefydlu, felly fi'n credu bo' raid i ni edrych ar strwythur newydd.
"Ymatebon ni ddwy ganrif yn ôl, felly pam so ni'n gallu meddwl am ffordd o ymateb nawr?"
Mae canghennau agosaf Barclays bellach yn Llandeilo a Llanbedr Pont Steffan.
Nid Llanymddyfri yw'r unig dref wledig sy'n colli eu gwasanaethau ariannol, gyda banc Barclays yn Nhywyn, Meirionydd yn cau ei ddrysau ar yr un dydd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Ionawr 2019