Ymchwiliad babanod Caer: Arestio gweithiwr gofal iechyd
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu Sir Caer wedi ail-arestio dynes mewn cysylltiad â'u hymchwiliad i farwolaethau babanod mewn ysbyty yng Nghaer.
Cafodd Lucy Letby, sy'n weithiwr gofal iechyd proffesiynol, ei harestio ddydd Llun ar amheuaeth o lofruddio wyth o fabanod, a cheisio lladd naw arall yn Ysbyty Iarlles Caer.
Fe gafodd y ddynes ei harestio 'nol ym mis Gorffennaf y llynedd cyn cael ei rhyddhau ar fechnïaeth.
Mae Ms Letby yn cael ei chadw yn y ddalfa ac yn helpu swyddogion gyda'u hymholiadau.
Ymchwiliad 'heriol'
Mae swyddogion wedi bod yn ymchwilio i 17 marwolaeth yn yr uned newydd enedigol rhwng mis Mawrth 2015 a Gorffennaf 2016.
Fe wnaeth yr heddlu ddweud bod teuluoedd o'r gogledd yn rhan o'r ymchwiliad gwreiddiol, ond ni allant gadarnhau faint o'r marwolaethau oedd yn ymwneud â theuluoedd o Gymru.
Dywedodd y Ditectif Paul Hughes fod yr ymchwiliad yn un "heriol ofnadwy" a'u bod nhw'n gwneud pob dim o fewn eu gallu i ganfod beth yn union arweiniodd at farwolaethau'r babanod.
"Fel rhan o'n hymchwiliad rydyn ni wedi arestio gweithiwr iechyd proffesiynol ar amheuaeth o lofruddio wyth o fabanod, a cheisio lladd chwech arall. Mae hi hefyd wedi cael ei harestio ar amheuaeth o geisio lladd tri o fabanod eraill," meddai.
Ychwanegodd fod rhieni pob un o'r babanod yn cael eu diweddaru a'u cefnogi.
Mae'r ymchwiliad yn parhau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Gorffennaf 2018