Cwmni Golwg yn penodi prif weithredwr newydd
- Cyhoeddwyd

Bydd Sian Powell yn cymryd yr awenau ym mis Awst
Mae Golwg wedi penodi Sian Powell fel prif weithredwr newydd y cwmni.
Mae gan Ms Powell, sydd o Ynys Môn yn wreiddiol, gefndir o ddarlithio mewn newyddiaduraeth a chynnal busnes ei hun yn ymgynghori ym maes cyfathrebu.
Daw'r penodiad wedi i sylfaenydd y cylchgrawn, Dylan Iorwerth, gyhoeddi ym mis Rhagfyr ei fod yn gadael y cwmni.
Dywedodd Ms Powell: "Mae'r cyfle hwn i arwain Golwg yn fraint. 'Dw i'n edrych ymlaen at ymuno â'r tîm talentog a chreadigol wrth i ni weithio i gryfhau newyddiaduraeth Cymru."
Bydd Ms Powell yn gyfrifol am gasgliad o wasanaethau gan gynnwys cylchgrawn Golwg, gwefan golwg360 a Bro360.
Dywedodd Mr Iorwerth, Golygydd Gyfarwyddwr presennol y cwmni: "Mae mwy o angen nag erioed am wasanaethau newyddion proffesiynol annibynnol Cymraeg ac mi fydd Sian yn gallu mynd â'r genhadaeth honno ymlaen i gyfnod newydd o newid a chwyldro yn y cyfryngau.
"Mae ganddi bersonoliaeth hawddgar ond hefyd y dycnwch a'r weledigaeth sydd ei angen i sicrhau bod mwy nag un llais newyddiadurol cry' ar gael yn Gymraeg."
Bydd Ms Powell yn cymryd yr awenau ym mis Awst.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Rhagfyr 2018
- Cyhoeddwyd6 Medi 2018
- Cyhoeddwyd3 Hydref 2018