Morgannwg 173 ar y blaen i Sir Derby
- Cyhoeddwyd
![Graham Wagg](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/C189/production/_107354594_gettyimages-1149302126.jpg)
Sgoriodd Graham Wagg 100 oddi ar 102 o beli i Forgannwg
Cyrhaeddodd Sir Derby 221 am 2 yn eu batiad cyntaf ar ail ddiwrnod gêm Pencampwriaeth y Siroedd yn erbyn Morgannwg.
Roedd hynny ar ôl i Forgannwg gyrraedd 394 yn eu batiad cyntaf ar faes Sain Helen yn Abertawe.
Graham Wagg oedd prif sgoriwr Morgannwg, gan gyrraedd 100 oddi ar 102 o beli cyn cael ei ddal gan Luis Reece o fowlio Leus du Plooy.
Cymrodd Morgannwg ddwy wiced gynnar ond llwyddodd Billy Godleman a Tom Lace i adeiladu partneriaeth i Sir Derby, gan orffen y dydd 173 rhediad y tu ôl i'r tîm cartref.