Rhagor o gawodydd ond rhybudd melyn ar ben
- Cyhoeddwyd

Mae'r heddlu'n rhybuddio gyrwyr oherwydd yr amodau anodd fore Iau
Dywed y Swyddfa Dywydd y bydd yna ragor o gawodydd yn y gogledd ddwyrain, ond daeth rhybudd melyn oedd mewn grym i ben am 12:00 ddydd Iau.
Roedd rhybuddion rhag llifogydd Cyfoeth Naturiol Cymru, dolen allanol yn parhau mewn grym ar gyfer rhai ardaloedd.
Ddydd Iau yn dilyn cyfnod o law trwm roedd gyrwyr yn wynebu amodau anodd.
Bu gwrthdrawiadau ar yr A55 ym Mangor a'r M4 yn ardal Y Pîl.
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Roedd ffordd ymuno â'r M4 yng Nghasnewydd (C26) hefyd ynghau am gyfnod oherwydd llifogydd.
Dywedodd Cyngor Sir y Fflint bod sawl ffordd wedi eu cau , gan gynnwys yr A5104 rhwng Cilcain a Loggerheads a Hen Ffordd Bagillt yn Nhreffynnon.
Ym Mae Colwyn bu'n rhaid cau'r lon rhwng Pwllycrochan Avenue a Ffordd Coed Pella oherwydd bod coeden wedi disgyn.
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Dywedodd Cyngor Sir Ddinbych, dolen allanol bod sawl ffordd yn ardaloedd Dyserth, Rhuthun a Llanarmon yn Ial wedi eu cau, ac ym Mhowys roedd problemau gyda'r B4393 ger Llandrinio.
Yn ardal Wrecsam, bu'n rhaid cau nifer o ffyrdd, gan gynnwys Manor Lane yn Yr Orsedd, Ffordd Llyn Padeswood a Ffordd Cefn ger Pentre' Maelor, rhwng Ffordd Yr Wyddgrug a Ffordd Celstryn.

Gorlifodd yr afon ger Tafarn Alyn Riverside Country Pub yn Yr Orsedd
Cafodd pedwar o bobl, gan gynnwys dau o blant, eu hachub drwy do car yng Nghilcain, ger Yr Wyddgrug, wedi iddo gael ei ysgubo i afon yn Sir y Fflint ddydd Mercher.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Mehefin 2019