Cynnydd yn nifer y bobl ifanc sy'n rhoi gwaed

  • Cyhoeddwyd
Rhoi gwaed

Mae cynnydd wedi bod yn nifer y bobl ifanc sy'n rhoi gwaed yng Nghymru, yn ôl Gwasanaeth Gwaed Cymru.

Yn 2018 roedd 24,395 o roddion gwaed gan bobl rhwng 17 a 30 oed - bron i 1,000 yn fwy na 2017.

Ond ar Ddiwrnod Rhyngwladol Rhoi Gwaed, mae 'na alwadau ar fwy o bobl i gamu 'mlaen.

Mae ysbytai yng Nghymru angen tua 100,000 o roddion pob blwyddyn yn ôl NHS Cymru.

Am y tro cyntaf yr wythnos hon, penderfynodd Katie Fowler roi gwaed am y tro cyntaf ar ôl iddi golli ei hewythr i ganser.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Katie Fowler bod pobl ifanc ddim yn gwybod "beth i'w ddisgwyl" cyn rhoi gwaed

Dywedodd y ferch 24 oed o Donypandy: "Doeddwn i methu helpu fy ewythr, felly dwi am helpu rhywun arall.

"Roedd e'n brifo 'chydig pan aeth y chwistrell fewn, ond ar ôl hynny oedd e'n iawn.

'"Yr oll gymrodd hi oedd 20 munud, ond fe all achub bywyd rhywun - a ti byth yn gwybod pryd fyddi di angen gwaed yn y dyfodol."

Pwy sy'n cael rhoi gwaed?

  • Unrhyw un rhwng 17 a 66 oed, neu 70 os ydych wedi rhoi gwaed o'r blaen;

  • Unrhyw un sy'n pwyso o leiaf 50kg (7 stôn a 12 pwys) ac sydd mewn iechyd da;

  • Dydy yfed neu ysmygu ddim yn gwahardd rhywun rhag rhoi gwaed;

  • Os ydych wedi cael tatŵ, tyllau neu driniaethau colur lled-barhaol, yna mae'n rhaid aros dros 120 o ddiwrnodiau cyn rhoi gwaed;

  • Mae 'na rai cyfyngiadau mewn grym o amgylch rhywioldeb.

Mae pob uned o waed yn cael ei rhannu'n wahanol gydrannau, felly mae modd defnyddio un rhodd i helpu tri o gleifion y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru.

Dros y blynyddoedd mae nifer y rhoddion gwaed wedi cynyddu ar draws y Deyrnas Unedig.

Gobaith Gwasanaeth Gwaed Cymru ydy bod pobl yn cychwyn rhoi gwaed yn ifanc, fel y byddan nhw'n parhau i wneud yn y tymor hir.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Jasmine Williams bod nifer o bobl ifanc yn credu'n anghywir nad ydyn nhw'n gallu rhoi gwaed

Mae Jasmine Williams o'r gwasanaeth yn gweithio i annog mwy o bobl ifanc i roi gwaed.

Dywedodd eu bod yn "cynyddu ein presenoldeb mewn prifysgolion, a hefyd yn digido ein gwasanaeth sy'n ei gwneud yn llawer haws i leoli'r clinig agosaf a threfnu apwyntiadau".

"Rydym hefyd yn annog ein rhoddwyr iau i rannu eu profiadau o roi gwaed a gobeithio y bydd hyn yn cyrraedd cynulleidfa ehangach," meddai.

Achub bywydau

Dechreuodd y llawfeddyg Dr Ali Jawad, 28 oed o Abertawe, roi gwaed ar ôl sylweddoli pa mor hanfodol oedd rhoddion gwaed, yn enwedig pobl o gefndiroedd amrywiol.

"Mae 'na gynnydd yn y nifer o leiafrifoedd ethnig, ac rydych chi'n fwy tebygol o gael gwaed sy'n debyg os ydyn nhw'n o'r un cefndir ethnig," meddai.

Yn ôl Dr Jawad mae rhoddion gwaed yn aml yn golygu'r "gwahaniaeth rhwng llawdriniaeth lwyddiannus a marwolaeth".