Cymal anoddaf ras seiclo'r Women's Tour ym Mhowys

  • Cyhoeddwyd
Liane LippertFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Yr Almaenes Liane Lippert (canol) sy'n arwain y ras ar ôl pedwar cymal

Bydd cymal anoddaf erioed ras seiclo merched y Women's Tour yn cael ei gynnal ym Mhowys ddydd Gwener.

Fe fydd rhai o feicwyr benywaidd gorau'r byd yn cymryd rhan yn y ras, sy'n dechrau yn Llandrindod am 10:30.

Dros bellter o 140 cilomedr fe fyddan nhw'n dringo cyfanswm o dros 2,200 metr cyn gorffen ar faes y sioe yn Llanelwedd am tua 14:30.

Ar ôl y pedwerydd cymal ddydd Iau yr Almaenes, Liane Lippert sy'n gwisgo crys gwyrdd arweinydd y ras.

Ffynhonnell y llun, Women's Tour
Disgrifiad o’r llun,

Bydd y pumed cymal yn teithio rhwng Llandrindod a Llanfair-ym-Muallt

Y Women's Tour yw'r ras seiclo bwysicaf i fenywod sy'n cael ei chynnal ym Mhrydain.

Mae'n cael ei chynnal am y chweched tro eleni ers cael ei lansio yn 2014.

Mae chwech o gymalau eleni ac am yr ail flwyddyn yn olynol fe fydd yr arian sydd ar gael mewn gwobrau yn gydradd â'r hyn sy'n cael ei gynnig i'r ras gyfatebol ar gyfer dynion - y Tour of Britain.

Bydd y seiclwyr unigol a'r timau yn cystadlu am gyfanswm o £87,055.

Mae'r ras yn denu rhai o enwau mwyaf y gamp, ac mae busnesau ym Mhowys yn gobeithio y bydd y cymal trwy'r sir yn denu torfeydd mawr o wylwyr.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd y ras yn gorffen ym Mharc Gwledig Pembre ddydd Sadwrn

Dywedodd y Cynghorydd Rosemarie Harris, arweinydd Cyngor Powys: "Dyma un o ddigwyddiadau mwyaf eiconig y byd chwaraeon.

"Bydd yn rhoi hwb enfawr i'n sir ryfeddol.

"Bydd cynnal dechrau a diwedd digwyddiad chwaraeon o safon fyd-eang yn tynnu sylw cynulleidfa byd eang i Bowys.

"Bydd Taith y Menywod OVO Energy yn sicr o ddenu miloedd o ymwelwyr i Bowys gan roi hwb enfawr i fusnesau a'r economi leol.

"Gobeithio y bydd trigolion yn dod allan yn llu i gefnogi'r digwyddiad wrth iddo fynd ar ei hyd drwy'r sir." 

Hwn yw'r pumed o chwe chymal, a bydd y ras yn gorffen ddydd Sadwrn pan fydd y seiclwyr yn teithio rhwng Caerfyrddin a Pharc Gwledig Pembre.