Gweithwyr Ford Pen-y-bont yn bygwth streicio

  • Cyhoeddwyd
FordFfynhonnell y llun, Matthew Horwood

Mae mwy na thri chwarter aelodau undeb Unite yn ffatri Ford ym Mhen-y-bont wedi datgan eu bod yn barod i gynnal streic yn erbyn cau'r safle.

Daw'r cyhoeddiad yn dilyn cyfarfodydd rhwng undeb Unite a'r gweithwyr ddydd Gwener.

Daeth cadarnhad yr wythnos ddiwethaf y bydd Ford yn cau ei ffatri yn y dref erbyn Medi 2020, gyda 1,700 o weithwyr yn colli eu swyddi.

Fe wnaeth 83% o aelodau Unite yn y ffatri bleidleisio o blaid y cynnig, gyda 1,031 pleidlais o blaid a 207 yn erbyn.

Mae'r penderfyniad i gau'r ffatri yn rhan o strategaeth y cwmni i greu busnes mwy llewyrchus yn Ewrop, yn ôl Ford.

Mewn pleidlais ymgynghorol gafodd ei gynnal gan Unite, dywedodd 83% o weithwyr yr undeb yn y ffatri y bydden nhw'n barod i frwydro yn erbyn y penderfyniad i gau'r gweithle.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd 1,700 o weithwyr yn colli eu swyddi wrth i'r ffatri gau

Wrth ymateb i'r bleidlais, dywedodd llefarydd ar ran Unite: "Mae'r bleidlais yn dangos yn glir nad ydy'r gweithlu yn barod i eistedd nôl a derbyn y penderfyniad.

"Dydyn nhw ddim yn mynd i adael i Ford achosi'r fath ddifrod i ardal Pen-y-bont ar Ogwr, a'i gadwyni gyflenwi yng Nghymru."

Ychwanegodd bod angen i Ford gydnabod y teimlad o "ddicter" sydd ymysg y cyhoedd a gwleidyddion yng Nghymru.

Mae Unite yn galw ar y cwmni i "feddwl eto" a llunio "cynllun amgen ar gyfer safle Pen-y-bont gydag Unite a llywodraethau Cymru a'r DU".

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan Mark Drakeford

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan Mark Drakeford

Daeth y cyhoeddiad bod Ford am gau'r ffatri ychydig fisoedd wedi i'r cwmni gyhoeddi y bydd y gweithlu yng Nghymru yn gostwng o 1,000, gyda 370 yn gadael yn syth.

Y bwriad yn wreiddiol oedd i'r ffatri gynhyrchu 250,000 injan bob blwyddyn, ond yna ym mis Medi 2016 fe gafodd y nifer hynny ei haneru.