Statws arweinydd Ceidwadwyr Cymru 'i gael ei ddatrys'
- Cyhoeddwyd
Bydd statws arweinydd y Blaid Geidwadol yng Nghymru'n cael ei ddatrys gan olynydd Theresa May, yn ôl arweinydd y blaid yn y Cynulliad.
Does dim arweinydd swyddogol gan y Ceidwadwyr Cymreig ac mae'r AC sy'n arwain grŵp y blaid ym Mae Caerdydd, Paul Davies, yn awyddus i godi statws y rôl.
Mae'n dweud ei fod yn ffyddiog y bydd hynny'n digwydd ar ôl cyfarfodydd yr wythnos diwethaf â rhai o'r ymgeiswyr i fod yn Brif Weinidog nesaf y DU.
Dywedodd wrth BBC Cymru: "Rydw i wedi cael trafodaethau positif gyda'r ymgeiswyr ac rwy'n hyderus iawn y bydd y mater yma'n cael ei ddatrys yn y dyfodol agos."
'Ddim werth dadl'
Mae Mr Davies a'i ragflaenwyr yn aml yn cael eu galw'n arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, er nad yw'r swydd yn bodoli'n ffurfiol.
Pan gafodd ei ethol y llynedd, fe bwysleisiodd y blaid bod aelodau'n ethol arweinydd grŵp y Ceidwadwyr yn y Cynulliad.
Mae rheolau'r blaid Albanaidd yn wahanol, gan olygu bod Ruth Davidson yn arweinydd swyddogol yno, yn ogystal â bod yn arweinydd y grŵp Ceidwadol yn Senedd Yr Alban.
Mae yna ddadl ers blynyddoedd ynghylch newid y sefyllfa yng Nghymru.
Yn gynharach eleni, dywedodd Cadeirydd y Ceidwadwyr Cymreig, Byron Davies, ei bod hi'n bryd newid y rheol yma ond mai aelodau ddylai benderfynu.
Ond mae AS Mynwy David Davies yn dweud ei fod yn fater "sydd ddim yn werth cael dadl drosto".
Dyw Paul Davies heb ddatgan pwy mae'n cefnogi yn y ras i gyrraedd 10 Downing Street, ond fe bleidleisiodd i aros yn yr UE yn refferendwm 2016 ac roedd hefyd yn cefnogi cytundeb Brexit Theresa May.
Pan ofynnwyd a allai gefnogi arweinydd sydd eisiau Brexit heb gytundeb, dywedodd: "Gallaf ddeall pam y byddai ymgeiswyr eisiau i hynny fod ar y bwrdd fel rhan o'r trafodaethau, mae hynny yn amlwg yn bwysig iawn, iawn.
"Ond mi wyddoch fy mod wedi gwneud hi'n glir fy mod wedi cefnogi cytundeb y Prif Weinidog gyda'r Undeb Ewropeaidd a fyddai wedi golygu y bydden ni wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd mewn ffordd drefnus."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Mehefin 2019