Ymgyrch am orsaf newydd ym Magwyr yn codi stêm
- Cyhoeddwyd
Pan gafodd ffordd liniaru'r M4 ei gwrthod gan y Prif Weinidog Mark Drakeford yn gynharach yn y mis, roedd galwadau yn syth ar Lywodraeth Cymru i feddwl am ffyrdd eraill o leddfu'r trafferthion i deithwyr yr ardal.
Nawr mae criw o drigolion Magwyr wedi cael syniad sy'n prysur ennyn cefnogaeth gwleidyddion lleol a Chomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol fel un allai ateb peth o'r galw.
Cyn i adroddiadau Richard Beeching yn y 1960au arwain at gau cannoedd o orsafoedd rheilffordd ar draws y DU, roedd gorsafoedd ym mhentrefi Magwyr a Gwndy yn ardal Casnewydd.
Y syniad nawr yw sefydlu gorsaf gerdded ym Magwyr, a hon fyddai gorsaf gerdded cyntaf Prydain.
Eisoes mae nifer o orsafoedd parcffordd, lle mae teithwyr yn cael eu hannog i barcio'r car a theithio ar y trên.
Y syniad ym Magwyr fyddai cerdded i'r orsaf a gadael y car adref.
Chwarter awr o gerdded
Mae bron i dri chwarter y gweithwyr sy'n byw yn ardaloedd Magwyr a Gwndy yn teithio i Gaerdydd, Casnewydd neu Fryste i weithio, ac mae llawer yn gwneud hynny yn eu ceir.
Mae'r syniad o wario £7m ar orsaf newydd felly mor "gyflawn a grymus" fel ei fod wedi cael cefnogaeth y cyngor lleol a gwleidyddion.
Ted Hand, fu'n gweithio ar y rheilffyrdd am 40 mlynedd, sefydlodd y grŵp o wirfoddolwyr sydd y tu ôl i'r syniad.
"Dyma'r ateb holistig i gymudwyr - yr orsaf gerdded fyddai'r gyntaf yn y DU," meddai.
"Mae'n tynnu ceir oddi ar y ffordd yn garedig i'r amgylchedd, yn integredig ac mae'n syniad mor dda roedd modd ei wneud 100 mlynedd cyn Beeching!"
Ni fydd unrhyw lefydd parcio ger yr orsaf arfaethedig, ond gan ei fod yng nghanol cymuned gymudo'r M4 fe fydd cysylltiadau hawdd i'r rhwydwaith bysiau, llwybrau seiclo ac - yn bwysicach - o fewn taith gerdded chwarter awr i fwyafrif y 6,000 o drigolion.
Er bod y brif lein rheilffordd rhwng de Cymru a Llundain yn rhedeg drwy bentre' Magwyr, dim ond 6% sy'n defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.
Dywedodd yr Aelod Seneddol lleol, Jessica Morden: "Mae disgwyl i'r boblogaeth leol gynyddu 10,000 dros y 10 mlynedd nesaf, felly byddai'r orsaf unigryw yma o fudd i lawer iawn o gymudwyr yn y pentref."
Bydd y gwirfoddolwyr sydd y tu ôl i'r cynllun yn cyfarfod ag Adran Drafnidiaeth Llywodraeth y DU ddydd Iau.
Yr hyn sydd ei angen arnyn nhw nawr yw £75,000 gan Lywodraeth Cymru er mwyn paratoi cynllun manwl fydd yn eu galluogi i gael gorsaf newydd ar restr gorsafoedd yr Adran Drafnidiaeth.
Mae gwleidyddion lleol wedi lobïo Mr Drakeford gan fod cynllun Magwyr yn "ticio bob bocs" o fod yn rhan o "gynllun trafnidiaeth integredig".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Mehefin 2019
- Cyhoeddwyd4 Mehefin 2019
- Cyhoeddwyd4 Mehefin 2019