Bywyd ac enw newydd i far adnabyddus y Parrot
- Cyhoeddwyd

Mae cwpl sydd wedi dychwelyd i Gymru ar ôl gweithio yn Abu Dhabi yn paratoi i ailagor un o fariau mwyaf adnabyddus y de-orllewin.
Mae Mike a Rhiannon Hilton yn gobeithio agor drysau'r Parrot yng Nghaerfyrddin ym mis Awst a chreu bar sydd hefyd yn cynnal amrywiaeth o weithgareddau creadigol.
Bydd enw'r bar, a gaeodd ddiwedd Rhagfyr, yn newid i CWRW, ac mae'r cwpl eisoes wedi trafod gyda rheolwyr Clwb Ifor Bach, Caerdydd i sicrhau bod y lle'n parhau i lwyfannu perfformiadau cerdd byw.
Dywedodd Mr Hilton bod angen cynnig mwy na dim ond cerddoriaeth er mwyn i'r busnes fod yn gynaliadwy, gan fod gymaint o lefydd sy'n cynnal gigiau mewn anawsterau neu wedi cau yn y blynyddoedd diwethaf ar draws y DU.

Pan gaeodd Y Parrot y llynedd roedd yn cael ei weld gan lawer fel ergyd i'r sîn gerddoriaeth Gymraeg
"Fydd pobl wastad yn 'nabod y lle fel y Parrot," meddai wrth Cymru Fyw.
"Ond mae yna gysylltiad wedyn rhwng yr enw a lleoliad sydd wedi agor ddwywaith fel lleoliad gigs - ac wedi cau ddwywaith."
Er yr enw newydd, mae'r cwpl yn anelu at greu busnes cymunedol sy'n cynnig mwy na chwrw a bwyd.
"Rydan ni'n gweld y lle fel hyb creadigol, cymunedol gyda gofod i lwyfannu cerddoriaeth fyw, barddoniaeth, ffilmiau ac arddangosfeydd efallai," meddai Mr Hilton.
"Dydyn ni ddim yn 'neud hyn i 'neud elw. Mae creu lle i'r gymuned rannu eu creadigrwydd yn greiddiol i'r busnes.
"Rydan ni'n rhentu'r llawr gwaelod - mae siop recordiau Tangled Parrot yn parhau i fyny grisiau."

Wedi cyfnodau o weithio fel athrawon, mae Mike a Rhiannon Hilton yn newid cyfeiriad gyda'r bwriad o redeg busnes fydd yn "hybu creadigrwydd y gymuned"
Dywedodd Mr Hilton, sy'n hanu o Lerpwl, fod e a'i wraig wedi dychwelyd i'w bro enedigol hi er mwyn magu eu mab pum mis oed yng Nghymru.
Roedd y ddau ag awydd newid cyfeiriad ar ôl gweithio fel athrawon.
"Rydan ni wedi mynd a dod o Sir Gâr ers 10 mlynedd a ro'n i wastad yn cael fy nenu i'r Parrot, oherwydd y gerddoriaeth yno.
"Mae fy mrawd yng nghyfraith mewn nifer o fandiau, ac wedi chwarae yn y Parrot."

Mae disgwyl i'r gwaith ailwampio gymryd tua dau fis
Maen nhw'n rhagweld y bydd yn cymryd rhyw ddau fis i ailwampio'r lle cyn ailagor y bar, a fydd yn rhoi pwyslais mawr ar gwrw bragdai lleol.
"Dydyn ni ddim yn mynd i wneud newidiadau drastig i'r lle - mae'n eitha' tywyll a da ni eisiau trio ei oleuo rywfaint."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Rhagfyr 2018
- Cyhoeddwyd18 Hydref 2018
- Cyhoeddwyd29 Hydref 2014