Gig olaf Gwdihŵ cyn cau'r bar 'anhygoel' yng Nghaerdydd
- Cyhoeddwyd
Roedd bar Gwdihŵ yng Nghaerdydd yn llawn i'r ymylon nos Fercher wrth i'r gig olaf gael ei chynnal yno cyn i'r safle gau.
Mae landlord yr adeilad ar Gilgant Guildford yn bwriadu dymchwel y stryd, ac mae busnesau eraill cyfagos - bwytai Madeira a'r Thai House - eisoes wedi cau.
Ond, yn ôl llefarydd ar ran Gwdihŵ, mae gobaith y bydd yr enw'n parhau i'r dyfodol, ond mewn safle arall.
Mae ymgyrchwyr sydd am ddiogelu'r safle wedi dweud bod Gwdihŵ yn rhan bwysig o'r sin gerddoriaeth yng Nghaerdydd ers 10 mlynedd.
'Calon cerddordiaeth Caerdydd'
Roedd ymgyrch i geisio atal cynlluniau i ddymchwel yr adeiladau, sy'n un o ddarnau gwreiddiol olaf canol y ddinas.
Ond mae'r landlord yn benderfynol o fwrw 'mlaen hefo cynlluniau i'w dymchwel.
Mae'r bar wedi ennill sawl gwobr fel lleoliad cerddoriaeth, ac mae'r artistiaid enwog sydd wedi ymddangos yno'n cynnwys Gruff Rhys, Catfish and the Bottlemen a Boy Azooga.
Roedd tri band yn chwarae yn y gig olaf - Ramnastax, Wonderbrass a Year of the Dog - a phob tocyn wedi'i werthu.
Dywedodd Dominic Lewis, sy'n gweithio yn y bar ac yn llefarydd ar ran Gwdihŵ, fod y lle yn unigryw.
"Mae o wedi bod yn galon i gerddoriaeth Caerdydd ers 10 mlynedd, a does 'na ddim lot o lefydd wedi para mor hir â hynny ac wedi dod i mewn a gymaint o fandiau amazing.
"Mae o wedi bod yn lle anhygoel i weld bandiau mor wahanol.
"Mae'n obaith mawr i bawb sy'n gweithio fan hyn ac sydd wedi bod ynglŷn â'r campaign i safio Gwdihŵ, so fi gyda ffydd y bydd Gwdihŵ yn ail-godi yn rhywle arall."
Dywedodd un o selogion gigs Gwdihŵ, Steve Dimmick, bod ganddo atgofion melys am nifer o nosweithiau cofiadwy yno.
"Dwi'n cofio reit yn ôl i'r dechrau, cyrraedd yma ar ddiwedd un noson, a deffro'r bore nesaf a dweud i'm ffrindiau: 'Lle oedd y lle 'na? Oedd o'n anhygoel o dda!'.
"Mae gen i atgofion dim trist, ond da am y lle. Mae o'n lle i adael dy hun fynd.
"Os mae'r waliau yma'n medru siarad bydden nhw'n cael lot i'w ddweud yn sicr!"
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Ionawr 2019
- Cyhoeddwyd8 Ionawr 2019
- Cyhoeddwyd12 Rhagfyr 2018
- Cyhoeddwyd30 Ionawr 2019