Anderlecht yn penodi Craig Bellamy fel hyfforddwr

  • Cyhoeddwyd
Craig BellamyFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe chwaraeodd Bellamy 78 o weithiau dros Gymru gan sgorio 19 gôl

Mae Anderlecht wedi penodi cyn-ymosodwr Cymru a Chaerdydd, Craig Bellamy, fel hyfforddwr.

Mae'r Cymro 39 oed wedi arwyddo cytundeb tair blynedd gyda'r clwb sy'n chwarae ym mhrif gynghrair Gwlad Belg.

Fe adawodd Bellamy ei rôl fel hyfforddwr gyda Chaerdydd yn dilyn honiadau ei fod wedi bwlio chwaraewyr - honiadau yr oedd yn eu gwrthod "yn llwyr".

Bydd Bellamy yn gyfrifol am hyfforddi'r tîm dan-21, tra bod Vincent Kompany, a chwaraeodd gyda'r Cymro yn Manchester City, yn chwaraewr-reolwr gyda'r tîm cyntaf.