Y newyddiadurwr Gwilym Owen wedi marw yn 87 oed
- Cyhoeddwyd
Yn 87 mlwydd oed, wedi gwaeledd byr, bu farw'r newyddiadurwr Gwilym Owen.
Bu'n bennaeth newyddion a materion cyfoes HTV a BBC Cymru yn ogystal â bod yn olygydd newyddion Radio Cymru.
Yn y 1960au bu'n gohebu i gwmni teledu TWW yn y gogledd ac yna i HTV Cymru.
Ym mis Mehefin 1970 derbyniodd swydd fel cynhyrchydd rhaglen Y Dydd yng Nghaerdydd, cyn ei benodi'n bennaeth newyddion a materion cyfoes HTV Cymru.
Tan yn gynharach eleni roedd ganddo golofn bryfoclyd yng nghylchgrawn Golwg.
'Eicon ei gyfnod'
Mewn teyrngedau mae Gwilym Owen wedi cael ei ddisgrifio yn un o gewri'r byd darlledu a'r byd newyddiadurol Cymraeg.
Dywedodd Tweli Griffiths a fu'n ohebydd ar Y Dydd tra'r oedd Gwilym Owen yn bennaeth: "Mi roedd Gwilym yn un o gewri'r byd darlledu Cymraeg, y byd newyddiadurol Cymraeg - roedd ganddo drwyn da am stori a'r dycnwch penderfynol i fynd o dan groen y stori honno.
"Fe gaiff ei gofio'n bennaf am ei holi a'i stilio trylwyr a phryfoclyd a hynny er mwyn sicrhau fod pobl bwysig yn gwbl atebol i bobl gyffredin. Roedd e'n eicon ei gyfnod a bydd bwlch enfawr ar ei ôl."
Y diweddar Wyn Roberts a ddaeth yn Aelod Seneddol Conwy oedd pennaeth TWW yn nyddiau cynnar y sianel ac ef a roddodd y swydd i Gwilym Owen.
Roedd cyfnod Mr Owen fel newyddiadurwr yn gyfnod prysur ac yn ystod cyfnod yr Arwisgo ym 1969 bu'n gohebu ar fom Abergele.
Yn Nhachwedd 1982, cafodd ei benodi'n olygydd newyddion Radio Cymru - daeth yn ddirprwy bennaeth newyddion a materion cyfoes BBC Cymru ac yna'n bennaeth.
'Y mentor gorau ges i erioed'
Wrth ei gofio dywedodd y cyn-newyddiadurwr Guto Harri: "Gwilym Owen oedd un o'r newyddiadurwyr gorau ry'n wedi'i weld yng Nghymru - roedd e'n drylwyr, roedd e'n dreiddgar wrth iddo graffu yn fanwl ar ein sefydliadau ni.
"Roedd e'n 'neud be mae newyddiadurwyr da fod i 'neud ond roedd ganddo galon fawr hefyd. Roedd yn teimlo bod newyddiaduraeth graff yn arwain at sefyllfaoedd gwell.
"Bu'n ysbrydoliaeth i genhedlaeth ar ôl cenhedlaeth ohonom ni - y mentor gorau ges i erioed."
Bu Gwilym Owen hefyd yn gyfarwyddwr y Bwrdd Ffilmiau Cymraeg am gyfnod.
Ar ôl ymddeol parhau gwnaeth ei gysylltiad â'r byd darlledu wrth iddo gyflwyno amrywiaeth o raglenni radio - yn eu plith Wythnos Gwilym Owen a Manylu.
Un o'i brif ddiddordebau oedd pêl-droed a bu'n ddyfarnwr cydnabyddedig am flynyddoedd.
Roedd hefyd yn golofnydd poblogaidd a dadleuol gan gyfrannu i bapur newydd Y Cymro a Golwg.
Yn y rhaglen Yr Ochr Arall ar Radio Cymru dywedodd fod "ganddo ddelwedd o fod yn ddyn blin" ond nad oedd yn credu ei fod mewn gwirionedd.
"Comisiwn oedd colofn Golwg," meddai, "ac roedd llawer o'r sylwadau yn rhai tafod yn y boch. Doeddwn i byth yn bersonol gas."
O ran ei yrfa newyddiadurol dywedodd nad oedd yn edifar am ddim y mae e wedi'i ddweud na'i wneud dros y blynyddoedd.
Ychwanegodd mai'r diwrnod y byddai'n ymddiheuro yw'r diwrnod y byddai'n rhoi'r gorau iddi.
Dywedodd Cyfarwyddwr BBC Cymru, Rhodri Talfan Davies: "Yn ei holi miniog a thrwyadl, doedd dim dianc rhag Gwilym - roedd yn newyddiadurwr wrth reddf a chanddo'r ddawn amlwg i fynd o dan groen unrhyw sefydliad.
"Ond dwi'n meddwl mai'r gynulleidfa oedd popeth i Gwilym ac roeddent hwythau yn deyrngar iddo.
"Dros ddegawdau, roedd Gwilym yn rhan o seilwaith BBC Cymru ac mae'n golled fawr i fywyd cenedlaethol Cymru.
Estynnwn ein cydymdeimlad dwysaf a'i deulu," meddai.
'Yr unig anrhydedd i Gymro Cymraeg'
Cafodd ei eni yn Llannerch-y-medd, Ynys Môn gan fynychu ysgol gynradd y pentref ac yna Ysgol Ramadeg Llangefni.
Ei swydd gyntaf oedd warden ac arweinydd ieuenctid ym Maesgeirchen Bangor.
Roedd yn Fonwysyn i'r carn ac roedd materion cefn gwlad yn agos iawn at ei galon.
Bu'n fyfyriwr ym Mhrifysgol Bangor am gyfnod cyn treulio dwy flynedd gyda'r Llu Awyr.
Yn aml cyfeiriai at ei fethiant academaidd ym Mangor a bod hynny wedi golygu ei fod wedi gorfod brwydro'n galetach i gyrraedd y brig.
Roedd yn feirniad cyson o'r Eisteddfod Genedlaethol ond er hynny yn 1997 bodlonodd ar gael ei dderbyn i'r Orsedd yn Eisteddfod Genedlaethol Y Bala am "mai dyma'r unig anrhydedd i Gymro Cymraeg".
Yn gyson roedd ei eiriau miniog yn arwain at ddadlau cyhoeddus - bu Gwilym Owen yn anghytuno gyda sefydliadau mawr y genedl, ymgyrchwyr iaith, cyhoeddwyr cylchgronau a darlledwyr Cymreig dros y blynyddoedd.
Er nad oedd ei sylwebaeth ar y Gymru gyfoes yn plesio pawb, tan y diwedd roedd ganddo'r ddawn i ysgogi trafodaethau brwd ac i herio'r gyfundrefn Gymreig.
Mae'n gadael ei wraig Eirlys a'i ferch Eleri.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Ionawr 2018