Ateb y Galw: Gwilym Owen

  • Cyhoeddwyd
Gwilym Owen

Y newyddiadurwr Gwilym Owen sy'n Ateb y Galw yr wythnos hon, wedi iddo gael ei enwebu gan Gwyn Llewelyn wythnos diwetha'.

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Disgyn i mewn i ffynnon yn Llannerch-y-medd - mae'n siŵr mod i'n tynnu at fy nyflwydd, o'n i'n ifanc iawn. Dwi'n cofio cael fy achub a bod yn wlyb iawn, ond dwi ddim yn cofio sut ddigwyddodd o, na llawer ar ôl hynny - mae'n siŵr fy mod i wedi cau fy meddwl i'r profiad!

Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?

Yn hwyrach yn fy mywyd ddaeth hynny. Pan o'n i'n iau, doedd gen i ddim rhyw ddiddordeb mewn merched ifanc, ac yn waeth byth, doedd gan ferched ifanc ddim diddordeb yn'a i chwaith! O'n i ddim yn y farchnad y naill ffordd na'r llall!

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Mae 'na amrywiol eitemau a straeon dwi wedi eu gwneud 'swn i'n falch 'swn i heb eu gwneud nhw - o'n i'n cywilyddio weithiau wrth eu gweld ar y sgrin. Unwaith, 'nes i ddarn i gamera ym Mhen Llŷn, ym mlynyddoedd cynnar Y Dydd - roedd 'na gwyno mawr fod costau claddu wedi mynd i fyny yn ofnadwy.

'Nes i ganfod bedd gwag mewn mynwent a sefis i yn y bedd gwag i wneud darn i'r camera gan ddweud "ym mhob man arall yng Nghymru, costau byw pobl sydd yn eu poeni nhw, ond yma ym Mhen Llŷn, costau marw yw'r broblem"... Roedd yna dipyn o ymateb anffarfiol i beth mor wirion â hynny!

Gwilym Owen
Disgrifiad o’r llun,

Mae Gwilym wedi bod yn newyddiadura ac yn darlledu ers dros hanner can mlynedd - ond ddim wedi gwneud y camgymeriad o ddarlledu o fedd gwag ddwywaith!

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?

Yn fy oed i, mae colli cyfeillion yn digwydd yn aml iawn y dyddiau yma, felly ar adegau felly mae'r dagrau yn dod.

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Dwi'n chwyrnu'n ofnadwy medda' ngwraig i. Dwi'n gorfod cymryd ei gair hi, wrth gwrs! Dwi'n chwyrnwr wrth reddf, ond mae'n arferiad drwg na alla i wneud dim ynglŷn â fo.

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Mae 'na amrywiol lefydd. Dwi'n hoff iawn o ardaloedd Dinas Mawddwy, Tregaron a Threfdraeth, Sir Benfro. Os o'n i allan yn gweithio, o'n i'n anelu i aros yn y llefydd hynny. Mae 'na rywbeth am yr ardaloedd hynny - ro'n i bob amser yn teimlo'n gartrefol yno.

Dinas MawddwyFfynhonnell y llun, Lee Bell/BBC
Disgrifiad o’r llun,

Mae Gwilym wrth ei fodd ag ardal Dinas Mawddwy - ac nid yw'n syndod gyda golygfeydd godidog fel hyn!

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Mae'n debyg mai'r noson orau ges i oedd pan ges i alwad ffôn annisgwyl rhyw nos Wener pan o'n i'n gweithio mewn cynhadledd wleidyddol yn Abergwaun. Ges i neges ffôn gan y BBC yn dweud y byddwn i, o'r dydd Llun canlynol, yn cymryd drosodd y swydd newydd o Bennaeth Newyddion a Materion Cyfoes y BBC - a rhybudd nad o'n i i ddweud gair wrth neb tan y dydd Llun. Ges i noson gofiadwy, ond tawel ac ar fy mhen fy hun yn dweud dim wrth neb. Fues i 'rioed mor unig, eisiau dweud ond yn methu.

Disgrifia dy hun mewn tri gair

Clên, annwyl, caredig.

Beth yw dy hoff lyfr neu ffilm?

Fy hoff lyfr dros y blynyddoedd diwethaf yw cofiant y Dr Derec Llwyd Morgan i Syr Thomas Parry, o'r enw Y Brenhinbren. Os oedd unrhyw lyfr yn haeddu ennill Llyfr y Flwyddyn, yna hwn ddylai fod wedi bod, ond chafodd o ddim. Clasur o lyfr am gawr o ddyn, wedi ei ysgrifennu yn hynod gaboledig. Y cofiant gorau i mi ei ddarllen erioed.

line

O Archif Ateb y Galw:

line

Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod

Dwi'n meddwl fod pobl yn fy 'nabod i eitha' da, ar ôl hanner can mlynedd o newyddiadura ac ysgrifennu yn y Gymru Gymraeg. Does gen i ddim ochr nad oes pobl yn gwybod amdani.

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

Ceisio bod yn glên, yn annwyl ac yn garedig.

Beth yw dy hoff gân a pham?

Mae honno'n hawdd - Esgair Llyn, Dafydd Iwan. Mae'n crynhoi fy agwedd i at Gymreictod ac at gefn gwlad Cymru.

Dafydd Iwan
Disgrifiad o’r llun,

Doedd Gwilym ddim angen meddwl ddwywaith am ei hoff gân

Cwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin - beth fyddai'r dewis?

Cawl cig oen i ddechrau, wedyn stwnsh rwdan, fel odda ni'n ei gael yn Sir Fôn (ond mae'n siŵr na fyswn i'n ei gael o mewn bwyty!), a tharten afal efo dipyn o gwstard am ei phen hi - 'swn i'n mwynhau'r pryd hwnnw'n fawr!

Pe taset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?

Faswn i'n hoffi bod yn arbenigwr meddygol fasai'n gallu achub rhywun, achos mae gen i ddyled mawr i un o'r rheiny.

Pwy sydd yn Ateb y Galw wythnos nesaf?

Tweli Griffiths