Rhybudd tywydd ar gyfer rhannau o'r gogledd

  • Cyhoeddwyd
Lightning stormFfynhonnell y llun, Science Photo Library

Mae'r Swyddfa Dywydd yn rhybuddio y gallai stormydd o fellt a tharanau achosi glaw trwm mewn rhannau o ogledd Cymru.

Gallai'r galw achosi llifogydd ac amharu ar drefniadau teithio.

Mae rhybudd mewn grym o 19:00 nos Sul tan hanner nos, nos Fawrth.

Mae'r Swyddfa Dywydd yn ychwanegu y gallai mellt, cenllysg a gwyntoedd cryfion amharu ar eiddo.