Morgannwg yn wynebu talcen caled yn erbyn Swydd Gaerloyw
- Cyhoeddwyd
![Chris Dent](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/624/cpsprodpb/51EA/production/_107507902_gloucestershiredent2_rex.jpg)
Fe sgoriodd Chris Dent 82 o rediadau ddydd Sul
Arweiniodd capten Swydd Gaerloyw, Chris Dent, y ffordd gyda 82 heb fod allan wrth i'w dîm gyrraedd 168-1 yn erbyn Morgannwg ddydd Sul.
Ychwanegodd Dent a Miles Hammond (61) 127 yn erbyn ymosodiad digalon.
Ond cwympodd cyfradd rhediadau'r tîm cartref yn ddramatig ar ôl cinio wrth i Forgannwg fowlio'n llawer mwy cywir.
Fe wnaeth Dent elwa o gael ei ollwng ddwywaith oddi ar Marchant de Lange.
Fe stopiodd y chwarae ym Mryste am 14:55 oherwydd glaw ar ôl 49 pelawd.